Hud y Nadolig
Llwybr Golau Nadolig Hudolus
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Llwybr Goleuadau'r Nadolig yn ôl, ac mae'n FWY ac yn WELL nag erioed eleni gyda'n Pentref Nadoligaidd! 🎉Gorau oll, mae'n ddigwyddiad hollol AM DDIM i fynychu (bydd angen talu am barcio i fynd i'r digwyddiad), felly dewch â'ch anwyliaid ac ymunwch â ni am brofiad hudolus yng nghoetiroedd rhyfeddol Pen-bre a pharatowch ar gyfer y syrpreis spesial o gwrdd â Siôn Corn yn ei gaban cartrefol yn y goedwig! (Mae'n rhaid archebu a thalu ffi am ymweld â Siôn Corn). Cofiwch ddod â hwyl yr ŵyl a chamera gyda chi!
Y Dyddiadau: 7 – 10 a 14 – 19 Rhagfyr
Amser: 5pm - 9pm (mynediad olaf i'r llwybr 8.15pm)
Ymweliadau Nadolig Siôn Corn GWERTHU ALLAN - £8 y plentyn - Angen archebu ymlaen llaw. Efallai y bydd argaeledd ar y diwrnod ond nid oes sicrwydd o hynny, ciwiau'n bosibl. Gellir archebu ymlaen llaw ar y tab archebu ar yr ochr dde Ni roddir ad-daliad.
Os ydych chi'n gobeithio ymweld â Siôn Corn ar y diwrnod mae'n rhaid i chi dalu yn y Ganolfan Sgïo cyn dechrau'r llwybr goleuadau (nid oes sicrwydd o argaeledd)
* Gellir canslo Llwybr Goleuadau'r Nadolig ar fyr rybudd yn sgil tywydd garw. Edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
Ffioedd Parcio ar gyfer Digwyddiad yn berthnasol - £8.00 y car – Parcio am ddim i bob deiliad trwydded parcio. Gallwch dalu barcio ar y diwrnod yn unrhyw un o'n peiriannau talu yn y parc. Sylwch, ni allwch dalu wrth y rhwystr. Gallwch hefyd ragdalu cyn i chi gyrraedd ar-lein (Tab archebu yn y bar ochr)
Rheolau'r Llwybr Goleuadau:
- Dim rhedeg.
- Dim cyffwrdd â'r propiau na'r goleuadau.
- Peidiwch â cheisio mynd i mewn i ardaloedd sydd â rhwystr o'u hamgylch.
- Rhaid gwisgo dillad ac esgidiau addas.
🎉❄️ #HudNadoligaidd #LlwybrGoleuadau #SyrpreisSiônCorn #DigwyddiadAmDdim #CoetirPen-bre