Ffilmio ym Mharc Gwledig Pen-bre

Chwilio am eich lleoliad delfrydol ar gyfer ffilm, rhaglen deledu neu raglen ddogfen?

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn gefndir perffaith ar gyfer cynyrchiadau Teledu a Ffilm a phrosiectau ffotograffiaeth

Mae’r parc yn lleoliad y mae galw mawr amdano ar gyfer ffilmio gyda’i dirwedd amrywiol ac mae traeth anhygoel yn lle gwych ar gyfer ffilmio - ar gyfer Cynyrchiadau Teledu a Sinema.

Mae'r parc wedi bod yn lleoliad ar gyfer nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu dros y blynyddoedd.

Os hoffech ddarganfod mwy am y posibiliadau diddiwedd sydd gennym o fewn y parc a’r traeth, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod neu i drefnu ymweliad â lleoliad.

Rhaid ceisio caniatâd i ffilmio yn unrhyw un o'n lleoliadau trwy gwblhau'r cais ffilmio ar-lein.

Lleoliadau eraill ar gyfer ffilmio

Parc Gwledig Llyn Llech Owain

Llecyn 73 hectar (180 erw) yw Parc Gwledig Llyn Llech Owain, o dan reolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, lle ceir llwybrau natur, ardal antur sy'n cynnwys maes chwarae antur pren gwych, lle chwarae ar wahân i blant bach â nodweddion llai. Trwy ddilyn trac drwy'r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded neu feiciau hirach o amgylch y parc gwledig ac mae llwybr beiciau mynydd garw ar gyfer y beicwyr mwy anturus yn eich plith! Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Llwybr Arfordirol y Mileniwm

Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail yn ogystal. Gellir llogi beiciau o Barc Sglefyrddio Ramps, sy'n llecyn annisgwyl braidd ar gyrion y dref ond sydd wedi denu sylw sglefyrddwyr o bell ac agos.