Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026

Mae Sir Gâr yn eich croesawu i Ddiwrnod Cenedlaethol Y Lluoedd Arfog. Carmarthenshire welcomes you to National Armed Forces Day 2026.

Mae Sir Gaerfyrddin yn falch o gynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru 2026, digwyddiad cyhoeddus am ddim a gynhelir ar 27 Mehefin 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre. Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog.

Trefnir y digwyddiad eleni gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth arfog – y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol – ac amrywiaeth o sefydliadau cefnogol. Wedi'i gynllunio ar gyfer y teulu cyfan, mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.

Wedi'i gynllunio mewn cydweithrediad ag uwch gynrychiolwyr o'r lluoedd arfog, bydd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau, gan gynnwys amrywiaeth eang o arddangosfeydd ac arddangosiadau milwrol.

Rydym yn annog ymwelwyr i archebu tocynnau ymlaen llaw i'n helpu i reoli'r digwyddiad, ond ni fyddwch yn cael eich gwrthod os byddwch yn mynychu ar y diwrnod heb docyn.

Mae mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Sylwer, fodd bynnag, y bydd ffioedd parcio yn berthnasol ym Mharc Gwledig Pen-bre ar gyfer ymwelwyr nad ydynt yn ddeiliaid trwydded barcio flynyddol. Bydd talebau parcio yn cael eu rhoi i aelodau sy'n gwasanaethu o'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog AM DDIM,  ond mae ffioedd parcio yn berthnasol.

Rhagor o wybodaeth

 

Talu ymlaen llaw am eich parcio

 

Llywodraeth Cymru