Gwersi sgïo

Gwersi mewn Grŵp

£15 y plentyn (5oed +) ac £21 yr oedolyn

Pris am 1 awr, yn cynnwys llogi offer a hyfforddiant.

Gwersi Rhagflas - ARCHEBWCH AR-LEIN

Gwers ragflas i'ch cael chi heibio'r camau cyntaf petrus hynny, sydd wedi'i hanelu at ddechreuwyr llwyr. Dyma fydd eich tro cyntaf yn gwisgo esgidiau sgïo.

Gwersi Efydd - ARCHEBWCH AR-LEIN

Mae hwn yn ail gam pwysig ac yn un y dylid ei ailadrodd.  Eich addysgu sut i reoli eich cyflymder yw'r allwedd i fagu hyder yn ddiogel

Gwersi Arian - ARCHEBWCH AR-LEIN

Ar ôl i'r hyfforddwr gadarnhau eich bod yn barod, mae'r gwersi Arian yn llawer o hwyl, a byddwch yn dysgu i ddefnyddio troadau'n effeithlon ac yn sgïo ar y llethr mwy o faint.

I'r rheiny sy'n mynd ar eu gwyliau sgïo cyntaf, mae'r gwersi hyn yn hanfodol. Mae unrhyw fuddsoddiad o ran amser, ymdrech ac arian yn talu ar ei ganfed gan y bydd pobl yn mwynhau mwy, yn fwy diogel, ac yn cael mwy o werth am yr arian pan fyddant dramor.

Gwersi Aur - ARCHEBWCH AR-lein

Gwersi ar gyfer grwpiau, sy'n addas i'r rheiny sydd wedi meistroli'r lifft ac sy'n barod i symud ymlaen o'r grŵp arian. Mae'n cynnwys adolygu troadau aradr eira ac mae'n arwain at droadau cyfochrog.

Clwb Plant - ARCHEBWCH AR-LEIN

Mae ein clwb plant ar fore dydd Sadwrn yn cynnig sesiwn hyfforddiant rhatach i blant dan 16 oed. Mae'n rhaid bod pob sgïwr wedi cael o leiaf ein Gwers Ragflas o'r blaen, ond rydym yn darparu ar gyfer pob gallu.

Mae'r sesiwn am 10:15 ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio'r lifft ar ein llethr llai.

Mae'r sesiwn am 11:30 ar gyfer sgiwyr sy'n gallu defnyddio'r lifft heb gymorth.

Hyfforddiant Dull Rhydd - ARCHEBWCH AR-LEIN

Felly os byddwch chi'n dechrau cael digon ar droi i'r chwith ac i'r dde yn unig, yna mae hyn ar eich cyfer chi.

Gyda'n hyfforddwyr dull rhydd cymwysedig, gallwch ddysgu sut i bopian, neidio, troelli a llithro'n gyfochrog (grind) dros ein rampiau a'n rheiliau bob nos Fercher.

Dysgu gyda hyfforddwr mewn amgylchedd rheoledig yw'r ffordd fwyaf diogel!

Y pris yw £14 am sesiwn 1.5 awr (mae archebu'n hanfodol)

Gwersi Sgïo ac Eirafyrddio Preifat - FFONIWCH I ARCHEBU 01554 834443

Mae'r rhain ar gael i unigolion neu i grŵp bach o hyd at chwe sgïwr/eirafyrddiwr o allu tebyg. Mae gwersi preifat yn sesiwn ddwy awr, sef un awr o hyfforddiant ac un awr o ymarfer yn syth ar ôl hynny.

Rhagflas

Dechreuwr Llwyr

Efydd

Aradr Eira Syth

Arian

Troadau Aradr Eira

Aur

Mireinio Troadau Aradr

Gwers breifat

I gael yr elfen bersonol.

Mae'r rhain ar gael i unigolion neu grŵp bach o hyd at chwe sgïwr/eirfyrddiwr o allu tebyg. Mae gwersi preifat yn sesiwn ddwy awr, sef un awr o hyfforddiant ac un awr o ymarfer yn syth ar ôl hynny.

Nifer y bobl 1 2 3 4
£42.00 £63.00 £83.00 £105.00
Am fwy o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â 01554 834443

Cyfleusterau