Hwb Gwaith Llesiant

Ym mis Medi 2019, cafodd Parc Gwledig Llyn Llech Owain ei enwi yn un o ddeuddeg safle Porth Darganfod ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Gan ymestyn o Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl a Phen-y-bont ar Ogwr i Ferthyr Tudful, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar gyfer pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Chymoedd De Cymru. Mae'r dirwedd unigryw hon yn addo profiadau cofiadwy i bawb: o aelodau o'r teulu o bob oed i gerddwyr, i bobl sy'n mwynhau cadw'n heini ac i'r rhai sydd am wneud ffrindiau newydd neu wirfoddoli. Dyma gyfle i chi ddatgelu straeon anhygoel y Cymoedd a dysgu mwy am ei threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog drwy gwrdd â phobl mewn trefi a phentrefi cyfagos, helpu i ddiogelu'r tirweddau ysbrydoledig neu fwynhau mynd allan i gael awyr iach; mae'r dewisiadau mor amrywiol â'r dirwedd newidiol.

Mae Pyrth Darganfod yn gyrchfannau i chi fwynhau'r dirwedd naturiol a deall mwy am hanes Cymoedd De Cymru. Mae Pyrth Darganfod yn fannau lle gallwch gael hwyl, archwilio'r dirwedd a darganfod mwy am fywyd gwyllt a chynefinoedd natur lleol. Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi enwi Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn Borth Darganfod gan ei fod yn un o'r nifer o leoedd anhygoel y gallwch ei ddarganfod yng Nghymoedd De Cymru.

I archebu Hwb Gwaith Llesiant

Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn cynnig Hwb Gwaith Llesiant gwych yn y Tŵr Darganfod sydd ar gael i'w logi am ddim i grwpiau neu unigolion gyfarfod a mwynhau'r natur wych o'ch cwmpas gan edrych allan i'r llyn ysblennydd yn y Parc Gwledig, neu fel arall, os hoffech gyfarfod â mwy na'r nifer sy'n gallu bod yn yr ystafell neu os hoffech gyfarfod y tu allan yn yr awyr iach, mae gan y parc loches gyfarfod yn yr awyr agored y gallwch ei defnyddio hefyd.

Mae'n debyg bod gweithio mewn amgylchedd naturiol yn hybu llesiant a chynhyrchiant, felly mae'r amgylchedd tawel sydd yma ar lan y dŵr yn ddelfrydol.

I archebu'r Hwb Gwaith Llesiant ar gyfer eich cyfarfod, i weithio ynddo am y diwrnod neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: HWBLLO@sirgar.gov.uk