Archebwch eich llogi beiciau yma

Hanner Dydd

Trwy'r Dydd

Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau ar hyn o bryd.

Llogi Beiciau

Yma yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre gallwch logi beiciau er mwyn rhyfeddu ar dros 500 erw o brydferthwch. Mae yna lwybrau o gwmpas y parc a thrwy'r coetiroedd.

Os hoffech fynd ar daith hwy, gallwch ymuno â Llwybr Arfordirol y Mileniwm.

Oriau Agor -  10am -  6pm (llogi olaf 4pm)

Teulu 4 sedd 10am - 6pm (llogi olaf 5pm)

Archebwch YMA ar gyfer Llogi Beic Teulu

Beiciau Teulu 6+ oed

Beicio i bawb

Mae beiciau addasol ar gael i'w llogi o'r Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu ymlaen llaw cyn cyrraedd gan fod gennym nifer gyfyngedig o feiciau.

Mae'r staff sy'n cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Amser agor 10am - 6pm pob dydd

Y sesiynau llogi beiciau yw £ 8.50 y pen am hyd at 2 awr.

Trac Pwmpio

Mae'r trac pwmpio yn gylchdaith o roleri, troeon ar oledd a nodweddion sy'n creu momentwm wrth i chi feicio neu fyrddau sgrialu drwy "bwmpio" sef symud y corff i fyny ac i lawr, yn hytrach na phedalu neu wthio.

O feiciau mynydd i BMX a byrddau sgrialu, mae'r trac pwmpio yn gae chwarae ar gyfer pob math o olwynion. Drwy gyfuno twmpathau i neidio drostynt a throeon maent yn hygyrch i bawb.

Amodau defnyddio - Beiciwch yn ddiogel a byddwch yn ddiogel!

(DARLLENWCH Y RHEOLAU WRTH FYNEDFA'R TRAC CYN DEFNYDDIO)

Prisiau llogi beiciau
Beicio Oedolion Iau
Hanner Dydd 10yb - 1.30 yn £15.00 £10.50
Hanner Dydd 2yn - 5.30yn £15.00 £10.50
Diwrnod llawn 10.30yb - 5.30 yn £21.00 £14.00
Trelar i blant (codir ffi i'w logi) £7.00
Beic teulu £ 15.00 yr awr / y teulu
Beicio i Bawb £8.50 yr awr
Beic addasol £8.50 yr awr

Beiciau addasol

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Sgïo Pen-bre ar 01554 834443 neu e-bost gweithgareddaupenbre@sirgar.gov.uk