Traeth Cefn Sidan

Traeth Cefn Sidan oedd y traeth cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr y Faner Las. Mae ganddo dros 8 milltir o draeth tywodlyd, sy'n cael ei gyffelybu'n aml i draethau California

Ceir nifer o fynedfeydd i'r traeth ar draws y parc. Y fynedfa orau ar gyfer pobl anabl yw'r brif fynedfa ger Siop Fach y Traeth, lle y byddwch yn gweld y rhodfa bren

Drwy gydol yr haf mae achubwyr bywydau yn gweithio ar y traeth wrth y brif fynedfa. Gofynnwn i chi gadw'n ddiogel a nofio yn yr ardaloedd y maent yn eu goruchwylio yn unig. 

Twyni Tywod

Cadwch draw oddi wrth y twyni tywod. Yn dilyn llanw uchel a stormydd, gall y twyni fod yn anniogel ac mewn perygl o ddymchwel.

Llongddrylliadau

Dros y canrifoedd mae llu o longau wedi eu dryllio ar draeth Cefn Sidan - yn wir 1668 yw'r cofnod cynharaf.

Hwnt ac yma ym mhen gogleddol y traeth mae asennau llongau yn brigo o'r tywod gan fod yn dyst i'r holl hwylio fu ar hyd ein glannau. Byddai'n rhaid cerdded tua 10 milltir er mwyn gallu gweld yr holl olion.

Mae'r angorau sydd i'w gweld ger y brif fynedfa i'r traeth yn gofadail i hanes morwrol Cefn Sidan. Mae taflenni ar gael yn ein canolfan ymwelwyr.

Cŵn ar y traeth

Bob blwyddyn, rhwng 1 Mai a 30 Medi daw is-ddeddf i rym sy'n cyfyngu cŵn a'u perchnogion i draethau 'cyfeillgar i gŵn' penodol. Yn Cefn Sidan rydych chi'n dal i gael dod â'ch cŵn yn ystod yr amseroedd hyn ond dim ond yn yr ardaloedd sy'n gyfeillgar i gŵn. Fe welwch lwybr troed o faes parcio 1 a fydd yn mynd â chi'n uniongyrchol i'r traeth gyda'ch ffrindiau gorau ac yna'n cadw ar yr ochr dde.

Cadair Olwyn Traeth

Mae cadeiriau olwyn traeth bellach ar gael i'w llogi i'w defnyddio ar Draeth Cefn Sidan. I archebu, ffoniwch 01554 834443 a chasglu o'n Ciosg Traeth. Ar agor 10.30 - 5pm.

Gallwch logi AM DDIM am 2 awr (£5.00 blaendal ad-daladwy)

#2FunudTraethGlân

Teulu o garwyr traethau ydym, sy'n barod i dorchi ein llewys i helpu i waredu sbwriel morol a llygredd plastig o draethau'r byd, a hynny ddwy funud ar y tro.

Rydym yn credu bod pob darn o sbwriel a waredir o'n traethau yn cyfrif. Wrth godi pob darn o blastig morol o'r traeth, rydych yn sicrhau na fydd y darn hwnnw mwyach yn gyfrifol am ladd dim.

Cyfleusterau

Cymerwch pip ar y llwybrau natur yn y parc

Darganfyddwch fwy