Archebwch nawr
Ymlacio a dadflino
Archebwch yn hyderus yn ystod Covid-19. Os nad ydych yn gallu ymweld â’r lle oherwydd cyfyngiadau o ran teithio neu oherwydd eich bod yn hunanynysu, byddwch yn cael ad-adaliad neu gallwch newid yr archeb i ddyddiad arall.
Gwybodaeth Pwysig
Gwybodaeth Pwysig
- DIM PEBYLL
- Rhaid i bawb sy'n archebu aros am o leiaf 2 noson neu 3 noson ar gyfer dyddiadau allweddol
- Dim archebion grŵp. Dim ymwelwyr â'r wersyllfa
- Dim ond 1 aelwyd sy'n gallu defnyddio carafanau
- Mae toiledau a chawodydd a lle golchi llestrie ar gau
- Rhaid dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser
- Mae bwyty Yr Orsaf ar agor ar gyfer cludfwyd a seddi awyr agored
Os oes gennych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd y symptomau canlynol, rhaid i chi beidio â theithio i Barc Gwledig Pen-bre. Ni chaniateir i chi hunan-ynysu yn eich carafán.
Os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau hyn yn ystod eich arhosiad ar y safle, rhaid i chi a'ch aelwyd ddychwelyd adref i hunan-ynysu, a dilyn canllawiau cyfredol y Llywodraeth.
- Gwres Uchel
- Peswch parhaus
- Colli blas neu arogl
Rhowch wybod i ni drwy e-bost neu dros y ffôn cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd gartref.
Peidiwch â rhoi gwybod i ni wyneb yn wyneb.
- Dim ond un person ar unrhyw adeg wrth y pwyntiau dŵr ac Elsan. Peidiwch â chiwio
- Tra byddwch yn aros, arhoswch o fewn eich llain.
- Defnyddiwch y ffyrdd a'r llwybrau a ddarperir a pheidiwch â cherdded drwy leiniau eraill
- Dim ond aelodau o un aelwyd sy'n gallu defnyddio carafanau
- Ni chaniateir ymwelwyr o aelwydydd eraill ar y safle. Mae hyn yn cynnwys teulu estynedig
- Peidiwch ag ymweld â charafanau eraill, na chymdeithasu mewn grwpiau gyda phobl nad ydynt yn aelodau o'ch aelwyd eich hun
- Rhaid cadw pellter o 2 fetr o leiaf bob amser oddi wrth unrhyw un nad yw o'ch aelwyd
- Os bydd angen cymorth gan dîm y safle gwersylla, rhaid cadw pellter o 2 fetr bob amser
Mae'r rheolau hyn yn ychwanegol at ddogfen rheolau a rheoliadau'r safle 2021
Anfonwch neges e-bost at camppembrey@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen yr hysbysiad uchod a
Telerau ac Amodau CYN archebu
Cyfleusterau
-
Accessibility
-
Dog friendly
-
Parking
-
Toilets
-
Cafe