Gwersi sgïo
Darganfyddwch sgïo
Darganfod, Chwarae ffordd chi...
Dysgu sgïo!
Gwers awr o hyd / rhagflas i ddechreuwyr i'ch cael chi heibio'r camau cyntaf petrus hynny.
Pris am 1 awr, yn cynnwys llogi offer a hyfforddiant.
Mae'r gwersi i ddechreuwyr yn ddilyniant o'r Rhagflas, sydd ar gyfer dechreuwyr llwyr, i'r Aradr Eira Aur. I'r rheiny sy'n mynd ar eu gwyliau sgïo cyntaf, mae'r gwersi hyn yn hanfodol. Mae unrhyw fuddsoddiad o ran amser, ymdrech ac arian yn talu ar ei ganfed gan y bydd pobl yn mwynhau mwy, yn fwy diogel, ac yn cael mwy o werth am yr arian pan fyddant dramor.

AMSERAU GWERSI |
---|
RHAGFLAS | EFYDD | ARIAN | AUR | RHAGFLAS EIRFYRDDIO | |
---|---|---|---|---|---|
Dydd Lun | 2pm + 6pm | 7pm | 8pm | ||
Dydd Mawrth | 2pm | 6pm | |||
Dydd Mercher | 6pm | 7pm | 8pm | 8pm | |
Dydd Iau | 2pm | 4pm | |||
Dydd Gwener | 2pm | 3pm | |||
Dydd Sadwrn | 2pm | 3pm | 4pm | 5pm | 12pm |
Dydd Sul | 2pm | 3pm | 4pm | 5pm | 12pm |
Clwb Plant |
---|
Bob bore Sadwrn, i blant 5-15 oed. Sesiwn hyfforddi hwyliog ar gyfer pob gallu. Pris yn cynnwys hyfforddiant, ymarfer a saib i gael lluniaeth. 10.30am – 12pm
Sesiynau hyfforddi i oedolion |
---|
Dilyniant i'r cwrs i Ddechreuwyr neu'r rheiny sy'n gallu gwneud troadau eira. Hefyd o fudd i'r rheiny sydd ag ychydig yn unig o brofiad ar yr eira. Yn dda ar gyfer gwella gwybodaeth dechnegol a sgiliau personol.
Dydd Llun a dydd Mawrth 10am
Dydd Gwener 4pm
Dydd Sul 10am
Gwers breifat |
---|
I gael yr elfen bersonol.
Mae'r rhain ar gael i unigolion neu grŵp bach o hyd at chwe sgïwr/eirfyrddiwr o allu tebyg. Mae gwersi preifat yn sesiwn ddwy awr, sef un awr o hyfforddiant ac un awr o ymarfer yn syth ar ôl hynny.
Nifer y bobl | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 |
---|---|---|---|---|---|---|
£35.00 | £50.00 | £65.00 | £80.00 | £95.00 | £110.00 |
Am fwy o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â 01554 834443
Cyfleusterau
-
Parcio
-
Toiledau
-
Caffi
-
Hygyrchedd