Darganfod ffordd chi...
Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd

Nid parcdir godidog oedd Parc Gwledig Pen-bre drwy gydol ei hanes; bu'n safle ar gyfer Ffatri Arfau'r Goron Pen-bre. Darparodd twyni tywod ynysig Pen-bre yr amodau delfrydol ar gyfer y gwaith peryglus o weithgynhyrchu ffrwydron! Yn ogystal â darparu sgrin effeithiol, roedd y twyni tywod yn lleihau unrhyw niwed posibl petai ffrwydrad yn digwydd. Nid yw'n syndod felly fod yr ardal wedi denu cynhyrchydd powdr gwn a dynameit mor gynnar ag 1881.

Mewn gwirionedd, roedd Pen-bre yn un o 200 o ffatrïoedd a oedd yn cynhyrchu arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr un modd â llefydd eraill, daeth y gwaith hwn i ben yn raddol ar ôl diwedd y rhyfel ac yn yr 1920au, caewyd y ffatri. Yn ystod yr 1930au, defnyddiwyd yr adeilad gweinyddu canolog fel cartref ymadfer a chanolfan adsefydlu i blant glowyr di-waith. Wrth i'r ail ryfel byd agosáu, cafodd y ffatri ei hail-agor a'i hailadeiladu i raddau helaeth o dan yr enw ‘Royal Ordnance Factory

Yn yr 1970au cymerodd yr awdurdod lleol (Cyngor Bwrdeistref Llanelli) dros safle'r ffatri a dechreuodd y dasg lafurus o drawsnewid yr ardal i greu'r parcdir hardd a'r cyfleuster arfordirol a welwch heddiw. Yn fwy diweddar yn 1996, sefydlwyd Cyngor Sir Caerfyrddin ac mae wedi parhau â'r ymrwymiad i ddarparu un o atyniadau gorau Cymru o ran parcdir i bobl leol ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i ymweld â thwneli'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ewch i'r Ganolfan Ymwelwyr lle gallwn ni roi rhagor o wybodaeth ichi. Yn ogystal mae gennym baneli gwybodaeth o amgylch y Parc.

Sut daeth y traeth a'r parc yr hyn ydyw heddiw?

Mae cymaint o hanes ynglŷn â sut y daeth Traeth Cefn Sidan a Pharc Gwledig Penbre fel yw heddiw.

Ym 1969 safodd mamau, neiniau a merched Penbre a Phorth Tywyn ar  flaen brwydr yn erbyn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd hi'n frwydr i atal traeth tawel Cefn Sidan rhag cael ei drawsnewid yn safle profi arfau mawr. Wrth i ddynion yr ardal fynd i weithio, mater i'r menywod oedd amddiffyn llinellau'r frwydr. ‘Mum’s Army’ yw'r stori am sut aeth menywod Sir Gaerfyrddin â'u brwydr i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Gwrandewch ar y stori lawn YMA

Creiriau cofiadwy

Dros y canrifoedd mae llu o longau wedi eu dryllio ar draeth Cefn Sidan - yn wir 1668 yw'r cofnod cynharaf. Hwnt ac yma ym mhen gogleddol y traeth mae asennau llongau yn brigo o'r tywod gan fod yn dyst i'r holl hwylio fu ar hyd ein glannau. Byddai'n rhaid cerdded tua 10 milltir er mwyn gallu gweld yr holl olion. Mae'r angorau sydd i'w gweld ger y brif fynedfa i'r traeth yn gofadail i hanes morwrol Cefn Sidan. Mae taflenni ar gael yn ein canolfan ymwelwyr.

Cafodd yr angorau hyn eu darganfod ger y marc penllanw isel ar draeth Cefn Sidan o fewn 200 metr i'w gilydd. Canfuwyd bod eu cadwyni 45 gradd i'r lan, felly gallwn dybio mai angorau trwm iawn neu "Bower" ydynt ar gyfer llong a fu mewn trafferth ofnadwy.   Mae eu maint yn dynodi iddynt gael eu defnyddio gan long a oedd yn pwyso o leiaf 1,000 o dunelli.

Caiff Rheilffordd Fechan Pen-bre ei chynnal a'i rheoli'n wirfoddol gan Beirianwyr Modelau Llanelli a'r Cylch, sy'n cynnwys pobl sy'n dwlu ar beirianneg a rheilffyrdd.

Hanes y Ffatri Ordnans Frenhinol, Pen-bre

Yn ogystal â darparu sgrin effeithiol, roedd y twyni tywod yn lleihau unrhyw ddifrod posibl petai ffrwydrad yn digwydd. 
Nid yw'n syndod felly fod yr ardal wedi denu cynhyrchwyr powdr gwn mor gynnar ag 1882. Cynhyrchid Dynameit a TNT yno'n ddiweddarach, pryd y gelwid y ffatri'n National Explosive Factory, wedyn yn Nobel Explosive Company, ac yn Ffatri Ordnans Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ei hanterth, roedd yn cyflogi 6,000 o bobl; menywod yn bennaf.

Fodd bynnag, ni ddatblygwyd y Ffatri Ordnans Frenhinol ar raddfa fawr tan 1914. Yn 1914 cytunodd Nobel Explosive Company Ltd o Glasgow, a fwriadwyd yn wreiddiol i gynhyrchu ffrwydron diwydiannol, â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel fod y cwmni'n codi ac yn rheoli ffatri Trinitrotolwen (TNT) ym Mhen-bre. Cytunwyd mai'r wladwriaeth ddylai dalu'n llawn gost codi'r ffatri, a fyddai'n parhau ym mherchenogaeth y Llywodraeth ar ôl y rhyfel, gan gadw Messrs Nobel fel asiantiaid at ddibenion gweinyddu.

Mewn gwirionedd, roedd Pen-bre yn un o fwy na 200 o ffatrïoedd a oedd yn cynhyrchu arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr un modd â llefydd eraill, daeth y gwaith hwn i ben yn raddol ar ôl diwedd y rhyfel ac yn yr 1920au, caewyd y ffatri. Yn ystod yr 1930au, defnyddiwyd yr adeilad Gweinyddu Canolog fel cartref ymadfer a chanolfan adsefydlu i blant glowyr di-waith gynhyrchu 'carbon black', a ddefnyddir wrth wneud inc i argraffwyr.

Wrth i'r Ail Ryfel Byd agosáu, cafodd y ffatri ei hail-agor a'i hailadeiladu i raddau helaeth o dan yr enw Ffatri Ordnans Frenhinol. Roedd adeiladau'r ffatri wedi'u trefnu'n ofalus dros ryw 200 hectar o dwyni tywod ac roedd swyddfa ganolog, barics heddlu, cantîn, meddygfa, llyfrgell ac adeiladau gweinyddol gyda'i gilydd ger y fynedfa i'r ffatri. Roedd yr adeiladau nitradu, yr arfdai a mannau peryglus eraill wedi'u lleoli yma a thraw rhwng y twyni tywod, a hynny bellter diogel i ffwrdd. Dim ond ambell un o'r adeiladau hyn sy'n dal i sefyll bellach. Golygai'r safle arfordirol fod deunydd adeiladu darbodus ar gael yn hwylus, sef tywod.

Yn ogystal â thwyni naturiol yr ardal, defnyddiwyd llawer iawn o dywod i ffurfio twmpathau artiffisial a bynceri tanddaearol. Roedd y rhain nid yn unig yn helpu i gelu'r adeiladau ond yn eu hamddiffyn pe bai ffrwydriad yn y ffatri. Mae llawer o'r rhain yn dal i fodoli ac wedi'u hymgorffori'n rhan o'r tir wrth i'r safle gael ei adfer. Roedd ystyriaeth ofalus wedi cael ei rhoi i gynllun y safle, a chafodd stordai deunydd crai, planhigion asid ac adeiladau nitradu eu trefnu mewn ffordd a alluogai'r deunyddiau i lifo'n effeithiol ar hyd system reilffordd y ffatri. Gellir gweld olion y cledrau hyd heddiw, yn enwedig o flaen y Llecyn Chwarae Antur. Roedd y ffatri yn gwbl hunangynhaliol o ran gwasanaethau, gan fod ganddi ei gwaith a'i pheiriannau ei hun i gynhyrchu trydan.

Cafwyd dŵr o ddwy afon fach rhyw bum milltir i ffwrdd. Adeiladwyd pyllau derbyn, ac oddi yno cludwyd y dŵr mewn prif bibell bymtheg modfedd i bwll lefel isel yn y ffatri lle câi ei drin yn gemegol, ei hidlo a'i bwmpio i danciau storio lefel uchel, i'w gludo drwy'r brif system ddŵr i bob rhan o'r safle. Yn ddiweddarach torrwyd nifer o ffynhonnau yn y ffatri. Cynhyrchwyd stêm mewn pedair gorsaf boeler oedd â 33 o foeleri, a allai gynhyrchu 5,000,000 pwys o stêm y dydd. Cynhyrchwyd golau a phŵer trydan ym mhwerdy'r ffatri, lle roedd saith generadur â chyfanswm capasiti o 4,300kw wedi'u gosod.

Roedd mynediad i'r safle o Gefnffordd yr A484 o Gaerfyrddin i Abertawe ar hyd ffordd breifat. Dôi'r rhan fwyaf o'r deunyddiau a'r gweithwyr ar y trên, ac roedd y safle wedi'i gysylltu â'r brif reilffordd o Paddington i Abergwaun (a oedd rhyw ddau gilometr i ffwrdd) gan ddwy linell leol.

Nid yw'n peri syndod mai at ddibenion rhyfelgar y defnyddid cynnyrch y ffatri. A dweud y gwir, y Ffatri Ordnans Frenhinol ym Mhen-bre oedd cynhyrchydd TNT, Amoniwm Nitrad a Tetryl mwyaf Prydain. Pan oedd y cynhyrchu ar ei fwyaf yn 1942, cynhyrchwyd tua 700 tunnell o TNT, 1,000 tunnell o Amoniwm Nitrad, a 40 tunnell o Tetryl bob wythnos. Pan ddaeth cyfnod mwy heddychlon, gwaredwyd y TNT yn ofalus o ffrwydron nad oedd eu hangen mwyach a chynhyrchwyd Amoniwm Nitrad i'w ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol.

Cafodd y TNT a oedd yn wastraff ei losgi ar ddarnau ynysig o dywod, er bod peth wedi cael ei losgi dan reolaeth. Bu i'r cynhyrchu barhau ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar raddfa fechan, heblaw am gynnydd sydyn ar ddechrau'r 1950au, adeg Rhyfel Corea. Prif fyrdwn y ffatri ar ddiwedd y pumdegau oedd dadelfennu hen fomiau neu sieliau nad oedd eu hangen mwyach. Yn raddol gadawyd i'r gweithlu leihau o 3000 pan oedd ar ei uchaf yn 1942 i lai na 400 yn 1961.

Cyhoeddwyd bod y ffatri'n cau yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Ebrill 1962, yn dilyn argymhelliad gan adolygiad o'r Ffatri Ordnans Brenhinol.

Caewyd y ffatri ym mis Mawrth 1965.