Darganfyddwch natur
ffordd chi...
Llwybr Arfordirol y Mileniwm
Parc gwledig Llyn Llech Owain


Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail yn ogystal. Gellir llogi beiciau yn y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau ym Mharc Gwledig Pen-bre y gellir eu cymryd ar hyd llwybr arfordirol y mileniwm.
Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail yn ogystal. Gellir llogi beiciau o Barc Sglefyrddio Ramps, sy'n llecyn annisgwyl braidd ar gyrion y dref ond sydd wedi denu sylw sglefyrddwyr o bell ac agos.


Yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm mae bwytuy St Elli Bay, sy'n dod ag elfen o'r Riviera i'r Parc. Mae bwydlen y caffi'n cynnig amrywiaeth o giniawau ysgafn, byrbrydau, a diodydd eraill, ac mae rhywbeth addas i bawb sy'n ymweld â'r lle. Mae'n fan delfrydol i ymwelwyr â'r parc ymlacio a mwynhau'r golygfeydd hyfryd o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae yno giosg hufen iâ a maes chwarae antur hefyd, felly mae'n lle perffaith i gadw'r plant yn brysur.
Mewn mannau eraill, ceir llecynnau o weundiroedd a choetiroedd llydanddail ac mae llecynnau o goetiroedd conwydd yn cael eu clirio a'u haddasu'n weundiroedd a choetiroedd llydanddail. Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel.

Mae gan Barc Arfordirol y Mileniwm yn Sir Gaerfyrddin filltiroedd o lwybrau cerdded a beicio arfordirol i'w mwynhau. Gallwch ddilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 ar hyd llwybr di-draffig gwych sy'n pasio heibio aber prydferth afon Llwchwr a phenrhyn Gŵyr. Mae'r daith yn eich tywys heibio i draeth Llanelli a thraeth Tywyn i Borth Tywyn lle ceir harbwr pert, traeth a marina diweddaraf Cymru. Yna, wrth deithio yn ôl i'r dwyrain gallwch basio heibio i Barc Dŵr y Sandy a thraeth Machynys cyn dod i'r Ganolfan Gwlyptir Genedlaethol lle gallwch edrych am amrywiaeth o adar. Gallwch edrych am heidiau o bibyddion y mawn, cwtiaid torchog, pibyddion y tywod a phibyddion coesgoch ar hyd yr arfordir a gellir gweld hwyaid yr eithin, piod y môr a'r gylfinir ymhellach ar hyd y fflatiau llaid. Mae nodweddion poblogaidd eraill yn y Parc yn cynnwys y Ganolfan Ddarganfod wych lle ceir llwyth o wybodaeth am yr ardal mewn adeilad modern arbennig. Os hoffech barhau â'ch anturiaethau, gallech fynd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr arfordir i Barc Gwledig gwych Pen-bre lle ceir mwy o olygfeydd arfordirol godidog a llwybrau bywyd gwyllt drwy goetiroedd. Yn ogystal, mae modd ichi logi beiciau o Ganolfan Sgïo Pen-bre.
Dyma fan sydd o ddiddordeb hanesyddol ac efallai yr hoffai blant wybod yn ôl y chwedl, mai Owain Lawgoch oedd yn gofalu am y ffynnon ar fynydd Mynydd Mawr. Bob dydd ar ôl cael digon o ddŵr i'w hunan a'i geffyl, roedd Owain o hyd yn ofalus iawn i roi'r llechfaen yn ôl yn ei le er mwyn dal y dŵr i mewn. Fodd bynnag, un tro, fe anghofiodd y cwbl am wneud hyn a llifodd y dŵr fel afon i lawr ochr y mynydd. O ganlyniad, ffurfiwyd llyn ac fe'i henwyd yn Llyn Llech Owain! Saif y Ganolfan Ymwelwyr wrth ymyl y llyn ac o'r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o Lyn Llech Owain a'r ardal gyfagos. Yn y Ganolfan, ceir arddangosfa a gwybodaeth ynghylch rheolaeth y Parc Gwledig. Mae ein tîm o Barcmyn Cefn Gwlad yn gweithio yma a byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau neu glywed am unrhyw fywyd gwyllt rydych wedi'i weld. Mae gan Lyn Llech Owain gaffi, safleoedd picnic, a thoiledau ynghyd â darpariaeth ar gyfer pobl anabl. Gobeithio y byddwch yn mwynhau ymweliad â'r lle cyn bo hir!