Taith lawn

Dyddiad ac amseroedd – 20 Gorffennaf 10:00am – 1:00pm

Lleoliad – Parc Gwledig Pen-bre - cwrdd yn y Ganolfan Sgïo.

Isafswm oedran 10 +

Uchafswm nifer y bobl - 15

Cost - £15 y pen

Dewch â chinio. Llenwch fflasg. Neidiwch ar eich beic ac ymunwch â'r ceidwaid am daith yng nghanol coedwig Pen-bre. Ar hyd y ffordd, byddwn yn cadw llygad am olion anifeiliaid ac arwyddion ohonynt, bynceri cudd, platfformau trên lle mae gordyfiant a mwy…...

Yna byddwn yn gorffen drwy fynd ar daith yn ôl ar hyd traeth Cefn Sidan a'i longddrylliadau niferus.

Mae angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon oherwydd byddwn yn beicio oddi ar y ffordd, dros draciau graean a thywod.

Dewch â'ch diodydd/byrbrydau eich hun

Dewch â'ch beic eich hun sy'n addas ar gyfer y dasg a chyfarpar diogelu personol, helmedau ac ati (mae modd llogi beiciau yn y Ganolfan Sgïo)

Archebwch nawr