Coronafeirws (COVID-19)
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am unrhyw gwestiynau a'u diweddaru
Cofiwch gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ymwelwyr eraill a chadw pob ci ar dennyn o ran cwrteisi i ddefnyddwyr eraill y parc. #ByddwchYnDdiogel
Talu ar-lein am barcio cyn gyrraedd.
Gwnewch eich rhan os gwelwch yn dda
Parchu: Y canllawiau, mesurau diogelwch, cymunedau lleol a phobl eraill
Diogelu: Eich hunain ac eraill. Arhoswch gartref os yn sâl. Golchwch eich dwylo
Mwynhau: Treuliwch eich amser hamdden yn ddiogel a chefnogwch fusnesau lleol
Ar agor 6am i 10pm pob dydd
Darganfod, Ail-danio, Cwrdd, Chwarae ffordd chi....
Parc Gwledig Pen-bre yw un o'r prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru, gan gynnig cyfuniad unigryw o'r arfordir a chefn gwlad.
Mae'r parc mewn 500 erw o goetir, sydd ar hyd wyth milltir o draeth euraidd. Mae gennym bopeth sydd ei angen i chi gael diwrnod perffaith allan gyda'r teulu, penwythnos mewn pabell, neu wyliau ymlaciol mewn llecyn dymunol dros ben.
Gyda'i draeth tywodlyd euraidd arobryn, llethr sgïo sych, taith toboggan, golff gwallgof, traw a phyt, reidiau trên, man chwarae antur, amrywiaeth o lwybrau natur ... mae rhywbeth i'w gynnig i'r teulu cyfan!