Swyddi Wag
Rheolwr Digwyddiadau
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol brwdfrydig ym maes digwyddiadau sydd â gweledigaeth fasnachol ac yn chwilio am her newydd gyffrous?
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn chwilio am Reolwr Digwyddiadau uchelgeisiol i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau fydd yn denu ymwelwyr, yn gwella profiad cwsmeriaid ac yn cynhyrchu incwm i un o gyrchfannau awyr agored mwyaf poblogaidd Cymru.
O gystadlaethau chwaraeon mawr a gwyliau teuluol i ddathliadau cymunedol a digwyddiadau hamdden awyr agored, mae hwn yn gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn amgylchedd arfordirol arbennig.
Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rhan allweddol yn natblygiad Parc Gwledig Pen-bre, gan helpu i gryfhau ei enw da fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer twristiaeth, hamdden a digwyddiadau cymunedol yng Nghymru.
Os ydych yn barod i ddod ag egni, creadigrwydd a dawn fasnachol at un o atyniadau mwyaf gwerthfawr Sir Gaerfyrddin, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Dawn Boyle - DBoyle@sirgar.gov.uk
Gwirfoddolwyr
Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr o fewn ein Parciau Gwledig a Gwarchodfeydd Natur. Rôl wych i gwrdd â phobl newydd
Gall tasgau gynnwys gwaith cadwraeth a chynorthwyo gyda digwyddiadau a llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Cydgysylltydd Cadwraeth a Seilwaith Gwyrdd trwy e-bost: paubrey@sitgar.gov.uk