Taith Feic Coetir gyda'r Ceidwaid

Ymunwch â Cheidwaid y Parc am daith feicio yn y coetir
Paciwch ginio. Llenwch fflasg. Neidiwch ar eich beic ac ymunwch â'r ceidwaid am reid, yn ddwfn i goedwig Pen-bre. Ar hyd y ffordd, byddwn yn cadw llygad am draciau ac arwyddion anifeiliaid, bynceri cudd, platfformau trên wedi gordyfu a mwy…...

Gorffen gyda reid yn ôl ar hyd traeth Cefn Sidan a'i longddrylliadau niferus.

Mae angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer hyn gan y byddwn yn beicio oddi ar y ffordd, dros draciau graean a thywod.

Dewch â’ch diodydd/byrbrydau eich hun ac ati

Dewch â’ch beic eich hun sy’n addas ar gyfer y reid a helmedau PPE cywir ac ati (mae llogi beiciau ar gael yn y Ganolfan Sgïo)

Dyddiad – 02 Mehefin a 30 Awst

Lleoliad – Parc Gwledig Pen-bre – cyfarfod yn y ganolfan sgïo.

Amser – 9am – tua 12 canol dydd.

Oedran lleiaf 10+ oed

Uchafswm niferoedd - 15