Gwnewch gais i gynnal digwyddiad ar dir agored Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae tîm Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Caerfyrddin yn rheoli nifer o fannau awyr agored fel Parc Gwledig Pen-bre, Meysydd Gŵyl Llanelli, Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Doc y Gogledd, ardal Harbwr Porth Tywyn a Man Digwyddiadau Pentywyn. Mae pob un ohonynt yn addas ar gyfer mannau digwyddiadau awyr agored i'w llogi.
I drefnu digwyddiad yn un o'r lleoliadau hyn, rhaid i chi gyflwyno cais drwy'r ddolen isod i gael caniatâd i gynnal eich digwyddiad/gweithgaredd.
Bydd llogi'r safle yn amodol ar dalu ffi neu fond, i'w gymeradwyo gan y Rheolwr Hamdden Awyr Agored. Yn ogystal bydd angen i bobl sy'n mynychu digwyddiadau dalu ffioedd parcio mewn rhai o'r lleoliadau.
Mae'r ffurflen gais hon wedi'i chynllunio i gefnogi trefnwyr digwyddiadau i gynnal digwyddiadau yn esmwyth ac yn ddiogel, gan sicrhau bod yr holl drwyddedau a chaniatâd angenrheidiol ar waith a'ch bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol drwy un pwynt cyswllt.
Bydd ceisiadau am ddigwyddiadau ond yn cael eu hystyried os cânt eu cyflwyno o fewn amser rhesymol cyn y digwyddiad, yn dibynnu ar faint y digwyddiad ond byddem yn disgwyl;_
- 9 mis o rybudd ar gyfer digwyddiad sy'n disgwyl mwy na 500 o bobl
- 3 mis o rybudd ar gyfer digwyddiad sy'n disgwyl llai na 500 o bobl
Rhaid derbyn caniatâd cyn i'r digwyddiad gael ei hysbysebu.
Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir yn y lleoliadau canlynol:
- Parc Gwledig Pen-bre (gan gynnwys Cae Mynachod, Cae Saethyddiaeth, Llwybrau, Y Ganolfan Sgïo a'r ganolfan weithgareddau)
- Meysydd Gŵyl Llanelli
- Llwybr Arfordirol y Mileniwm
- Parc Gwledig Llyn Llech Owain
- Mynydd Mawr
- Ynysdawela
- Doc y Gogledd
- Harbwr Porth Tywyn
- Gofod Digwyddiadau Pentywyn
Er enghraifft, gall digwyddiadau gynnwys:
- Digwyddiadau cerddoriaeth
- Digwyddiadau chwaraeon
- Ffeiriau
- Gwyliau bwyd
- Rasys ffordd
- Gwyliau cwrw
- Lle masnach
- Teithiau cerdded er elusen
- Rasys hwyl
- Carnifalau
- Digwyddiadau cymunedol
- Digwyddiadau Elusennol
Er mwyn eich helpu i ddewis dyddiad eich digwyddiad ac i osgoi gwrthdaro â gweithgareddau sydd eisoes wedi'u trefnu, rydym yn cynnal calendr o ddigwyddiadau presennol a rhai a gynlluniwyd o flaen llaw. Cyn gwneud cais i gynnal digwyddiad, gwiriwch y dyddiadau drwy anfon e-bost at DigwyddiadauHAA@sirgar.gov.uk.
Mae'n debygol y bydd digwyddiadau gyda thros 500 o gyfranogwyr disgwyliedig yn cael eu cyfeirio at Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Cyngor Sir Caerfyrddin i drafod ymhellach cyn y gall y Tîm Digwyddiadau Hamdden Awyr Agored roi caniatâd.
Mae'r ddolen ganlynol yn cynnwys rhai dolenni a thempledi defnyddiol y gellir eu defnyddio fel rhan o'ch proses ymgeisio.