Brecwast gyda Siôn Corn

Dechreuwch eich diwrnod gyda Siôn Corn

Beth am greu atgofion y Nadolig hwn drwy fwynhau Brecwast Nadoligaidd gyda Siôn Corn yn Yr Orsaf ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Mwynhewch frecwast blasus cyn cwrdd ag ymwelydd enwocaf tymor yr Wyl. Bydd Siôn Corn yn ymuno â'i helpwr bach direidus, sy'n siŵr o ddod â digon o hwyl a chwerthin Nadoligaidd i'r bore.

Bydd plant yn cael cyfle i gwrdd â Siôn Corn, rhannu eu dymuniadau Nadolig a mwynhau profiad Nadoligaidd arbennig mewn lleoliad hamddenol a chroesawgar.

Mae'n berffaith i deuluoedd sy'n edrych i ddechrau eu dathliadau Nadolig gydag ychydig o hud ychwanegol.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiadau: 5, 6, 12, 13, 19, 20 a 24 Rhagfyr 2026

Amser: 9:00am

Pris: £13.50 y pen

Lleoliad: Yr Orsaf, Parc Gwledig Pen-bre

Beth mae hyn yn ei gynnwys?

  • Brecwast blasus
  • Cwrdd â Siôn Corn
  • Adloniant Nadoligaidd
  • Ymddangosiad gan helpwr bach Siôn Corn
  • Profiad Nadolig i'r teulu
  • Anrheg i'r plant

Gwybodaeth Archebu

Mae'r digwyddiad hwn yn boblogaidd iawn a hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

Rhaid archebu lle'n gynnar i osgoi siom.

Dewch draw i fwynhau bore hudolus yn llawn hwyl Nadoligaidd.


`
Archebwch nawr