Drwy fynd i mewn i Barc Gwledig Pen-bre rydych yn cytuno i gadw at y rheolau a'r rheoliadau canlynol, bydd methu â chydymffurfio yn golygu y gallech gael eich gwahardd o'r Parc a bod yn destun camau pellach gan gynnwys erlyn. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i'r Parc a Thraeth Cefn Sidan oni bai y nodir yn wahanol.

Diffiniadau

Ystyr "Parc" yw Parc Gwledig Pen-bre, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin.

Ystyr "Traeth" yw'r traeth ym Mharc Gwledig Pen-bre, sef Traeth Cefn Sidan.

Ystyr "Cyngor" yw Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dim ond yn ystod yr oriau agor sy'n cael eu harddangos y caniateir mynediad i Barc Gwledig Pen-bre, gellir dod o hyd i'r rhain ar y prif fwrdd wrth i chi fynd i mewn i'r parc. Gall y rhain newid heb rybudd a gwahaniaethu yn ôl tymor.

Telerau ac Amodau'r Ffi Fynediad a'r Tocynnau Tymor

Mae mynediad i Barc Gwledig Pen-bre gyda cherbyd modur drwy'r brif fynediad ar Heol y Ffatri lle mae rhwystrau awtomataidd sy'n defnyddio system Adnabod Rhifau Cofrestru Awtomatig.

Trwy brynu tocyn tymor mae'n rhoi'r hawl i'r defnyddiwr gofrestru 2 rif cofrestru cerbyd sydd wedi'u cofrestru yn yr un cyfeiriad a gall y Cyngor ofyn am dystiolaeth resymol i gadarnhau bod y cerbydau'n perthyn i'r un cyfeiriad. Bydd methu â darparu cadarnhad yn arwain at ddileu un rhif cofrestru yn awtomatig. Caniateir i'r rhai sy'n prynu tocyn tymor newid y cofnod o rif cofrestru'r cerbydau hyd at 3 gwaith yn ystod unrhyw gyfnod o flwyddyn yn rhad ac am ddim.

Dim ond un cerbyd fydd yn cael ei ganiatáu am ddim i'r Parc ar unrhyw un adeg. Os bydd y ddau gerbyd yn mynd i mewn i'r Parc ar yr un pryd, codir tâl ar yr ail gerbyd ar y gyfradd briodol ar gyfer yr ymweliad, bydd methu â chadw at y telerau yn golygu bod un cerbyd yn cael ei ddileu o gofnod yr hawlen.

Mae Tocyn Tymor i'w ddefnyddio gan un aelwyd yn unig ac mae'n rhaid datgan y cerbydau ar adeg prynu'r tocyn. Ni ellir trosglwyddo na ad-dalu tocynnau tymor mewn unrhyw amgylchiadau.

Nid yw tocynnau parcio tymhorol yn darparu mynediad na thaliad ar gyfer unrhyw gyfleuster neu weithgaredd o fewn y Parc neu'r traeth.

 

Talu am barcio - pobl nad ydynt yn ddeiliaid tocyn tymor

Bydd gofyn i chi dalu am fynd i mewn i'r Parc gyda cherbyd modur. Dim ond mewn rhai ardaloedd dynodedig penodol y caniateir cerbydau ac ni chaniateir cerbydau ar y traeth oni bai bod ganddynt hawlen traeth ddilys. Mae'r awdurdod yn cadw'r hawl i bennu taliadau a diwygio taliadau heb roi rhybudd ymlaen llaw. Os byddwch yn methu â thalu'r tâl parcio ar unrhyw ymweliad, bydd gofyn i chi dalu'r tâl llawn am yr ymweliad hwnnw.

Mae'n rhaid talu am barcio ceir yn y gorsafoedd talu yn y parc cyn mynd at y rhwystr ymadael, nid oes modd talu wrth yr allanfa.

Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i adennill y costau sy'n gysylltiedig â chasglu'r taliad sy'n weddill sef isafswm ffi o £20.

Rheolau a'r Rheoliadau

Terfynau Cyflymder

Mae'n rhaid i bob cerbyd sy'n dod i mewn i'r parc sicrhau bod ganddynt drwydded ac yswiriant ac unrhyw dystysgrif arall sy'n ofynnol ar gyfer y math o gerbyd dan sylw. Wrth fynd i mewn i'r Parc rydych yn cytuno i gadw at y terfyn cyflymder o 15mya.
Ni chaniateir i unrhyw un yrru unrhyw gerbyd ar y parc ac eithrio ar ffyrdd a grëwyd gan y Cyngor at y diben hwnnw neu ardaloedd glaswelltog sydd wedi'u dynodi ar gyfer parcio. Nid yw'r rheol hon yn berthnasol i unrhyw gerbyd a weithredir gan y Cyngor mewn cysylltiad â chynnal a chadw'r parc.
Mae'n rhaid i yrrwr cerbyd ildio bob amser i gerddwyr a beicwyr.

Beiciau

Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n reidio beic, sgwter, sglefrfwrdd, sglefroliau, llafnroliau neu offer tebyg yn y Parc wneud hynny mewn modd cyfrifol. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n ddarostyngedig i'r rheol hon beidio â theithio ar gyflymder o fwy na 5mya neu mewn modd neu fan sy'n anafu, yn tarfu, yn rhwystro, yn torri ar draws neu'n gwylltio unrhyw berson arall.
Ni chaniateir defnyddio sgwteri trydan yn y Parc. Maent yn anghyfreithlon o dan gyfraith bresennol y DU.

Beiciau Modur a Beiciau Cwad a Beiciau Tair Olwyn (Oddi ar y Ffordd)

Gwaherddir beiciau modur, beiciau cwad a phob math o gerbyd oddi ar y ffordd arall rhag defnyddio unrhyw ran o'r Parc nad yw'n hygyrch i gerbydau modur cyffredin ac sydd heb fod ag hawl mynd ar y traeth.
Mae'n rhaid i ddefnyddwyr a pherchnogion beiciau modur, beiciau cwad a cherbydau oddi ar y ffordd eraill sicrhau bod ganddynt drwydded ac yswiriant ac unrhyw dystysgrif arall sy'n ofynnol ar gyfer y math o gerbyd dan sylw. Ni chaniateir defnyddio unrhyw gerbyd modur sydd heb yswiriant, mae hyn yn cynnwys teganau plant sy'n cael eu gweithredu gan danwydd.

Tanau a Barbeciwiau 

Ni chaniateir tanau agored ar unrhyw adeg mewn unrhyw leoliad yn y Parc na'r traeth na'r twyni tywod.
NI CHANIATEIR defnyddio barbeciwiau tafladwy yn y Parc oni bai eu bod yn 300mm (1 droedfedd) oddi ar y llawr oherwydd eu bod yn llosgi glaswellt ac yn achosi perygl. Mae'n rhaid gwaredu Barbeciwiau a chynnwys Barbeciwiau o'r Parc a gwneud hynny yn y modd cywir. Rhaid iddynt beidio â chael eu claddu. Mae Barbeciwiau a thanau wedi'u cyfyngu i'r mannau agored yn unig ac wedi'u gwahardd yn llwyr o ardal y coetir. Os bydd llwch yn difrodi cerbydau neu eiddo cwsmeriaid eraill, bydd angen i'r mater gael ei ddatrys rhwng y partïon dan sylw ac ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am y mater. NI CHANIATEIR Barbeciwiau a thanau ar y Traeth na'r twyni tywod ar unrhyw adeg.
Yn ystod cyfnodau o risg uchel o ran tân, bydd defnyddio barbeciwiau tafladwy yn cael ei wahardd, bydd pob dull arall o goginio yn yr awyr agored yn cael ei fonitro, rhaid diffodd barbeciwiau os bydd swyddog o'r cyngor yn gofyn am wneud hynny.

Aros Dros Nos

Ni chaniateir aros dros nos ar y Parc na'r traeth oni bai bod hyn wedi'i archebu drwy'r trefniadau archebu gwersylla a charafanio neu oni bai bod hyn yn rhan o ddigwyddiad a drefnir. Pan fydd aros dros nos yn cael ei awdurdodi, yna bydd gofyn i ymwelwyr barcio yn yr ardaloedd a ddynodwyd gan y Cyngor.

Sioeau Cyhoeddus a Pherfformiadau a Digwyddiadau

Ni chaniateir i neb gynnal sioe gyhoeddus, perfformiad ac ni ellir cynnal unrhyw ddigwyddiadau yn y Parc heb ganiatâd ysgrifenedig datganedig y Cyngor.

Sbwriel/Gwastraff

Nid oes hawl gan unrhyw un ollwng sbwriel o unrhyw fath yn y Parc a'r Traeth heblaw yn y biniau a ddarperir.
Fe'ch anogir i fynd â'ch gwastraff gartref gyda chi ond lle nad yw hyn yn bosibl mae'n rhaid rhoi unrhyw sbwriel yn y cynwysyddion a ddarperir. Mae'n rhaid gwaredu'r holl sbwriel/gwastraff o'r traeth.
Mae gollwng sbwriel yn drosedd ac mae perygl i chi gael eich erlyn am wneud hynny.
Ni chaniateir defnyddio cyfleusterau'r parc ar gyfer gwaredu gwastraff y cartref a deunydd ailgylchu.

Sŵn/Ymddygiad Gwrthgymdeithasol/Fandaliaeth

Ni oddefir fandaliaeth a/neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhegi, ymddygiad ymosodol geiriol neu gorfforol a lle bo'n briodol bydd achosion o hyn yn cael eu hadrodd i'r Heddlu. Ni chaniateir drylliau tanio ac arfau yn y Parc na'r traeth.
Ni ddylai neb: -

 

Dronau a Barcutiaid

Ni chaniateir dronau ac awyrennau hedfan a reolir o bell heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Cyngor. Caniateir barcutiaid plant a chaniateir barcutiaid chwaraeon mewn ardaloedd dynodedig gyda chaniatâd y Cyngor.

Gemau Ymladd Cyffrous

Ni chaniateir gemau ymladd cyffrous fel saethu pelenni paent yn y parc nac ar y traeth heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y cyngor.

Ffilmio (ac eithrio at ddefnydd personol)

Gwaherddir ffilmio ac eithrio at ddefnydd personol. Lle mae angen ffilmio at unrhyw ddiben arall, bydd angen caniatâd ysgrifenedig y Cyngor. Ni chaniateir ichi ddefnyddio unrhyw recordiadau a/neu'n cynnwys mewn unrhyw ddarlledu byw, ffurf sain a/neu fideo heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Cyngor ymlaen llaw.

Hysbysebu

Ni chaniateir hysbysebu ym Mharc Gwledig Pen-bre, mae hyn yn cynnwys posteri, taflenni a baneri. Ni chaniateir hyrwyddo cynnyrch, brand neu wasanaeth i wylwyr er mwyn denu diddordeb, ymgysylltiad a gwerthiant.

Noethlymuniaeth

Ni chaniateir noethlymuniaeth yn y Parc na'r traeth.

Masnachu (heb drwydded na phrydles)

Ni chaniateir i chi gynnig gwerthu na gosod na llogi unrhyw nwyddau na darparu unrhyw wasanaethau yn y parc na'r traeth, hysbysebu na chanfasio yn y Parc nac ar y traeth.

Ysmygu yn y mannau chwarae

Ni chaniateir ysmygu mewn mannau chwarae i blant.

Cŵn ac Anifeiliaid Domestig

Caniateir dod ag anifail (ac eithrio anifail gwyllt peryglus fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 fel y'i haddaswyd neu ei diwygiwyd) i'r parc ar yr amod y bydd y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am anifail o'r fath yn ei gadw dan reolaeth agos neu ar dennyn byr.
Pan fydd ci yn baeddu yn y parc, mae'n rhaid i'r person sy'n rheoli'r ci roi'r gwastraff mewn bin priodol sydd wedi'i leoli yn y parc neu ei waredu o'r parc. Bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i roi gwybod am faw cŵn nad yw'n cael ei glirio. Mewn achos lle rhoddir gwybod i'r Cyngor am gi yn baeddu, bydd yn cymryd y camau angenrheidiol yn erbyn y perchennog neu'r person sy'n rheoli'r ci.
Mae'n rhaid i gŵn gael eu rhoi ar dennyn sydd heb fod yn fwy na dau fetr o hyd pan roddir cyfarwyddyd iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig y Cyngor. Byddwch chi ond yn cael cyfarwyddyd i roi eich ci ar dennyn os ystyrir bod eich ci yn achosi niwsans neu berygl i bobl eraill neu anifeiliaid eraill. Ni chaniateir cŵn mewn mannau chwarae caeedig i blant yn y parc nac unrhyw ardaloedd eraill a ddynodwyd i'w defnyddio gan blant.
Ni chaniateir i unrhyw anifail sy'n dod i mewn i'r parc: -

 

Ni ddylid gadael anifeiliaid dan reolaeth plant bach. Mae'n rhaid i anifeiliaid fod dan reolaeth person cyfrifol sy'n gallu rheoli'r anifail ar bob adeg.
Nid oes hawl gan unrhyw un hyfforddi na rasio unrhyw gŵn yn y parc yn y fath fodd fel ei fod yn gwylltio neu'n achosi pryder i ddefnyddwyr eraill y parc. Gwaherddir cŵn ar y traeth yn unol ag is-ddeddf leol a dyfarniadau eraill e.e. gwobr baner las a rhaid cadw at y rhain. (1 Mawrth tan 30 Medi)

Ceffylau

Ni chaniateir i chi ddod â cheffyl neu geffylau i'r Parc nac i ardal Baner Las ddynodedig o'r traeth oni bai eich bod yn rhan o ddigwyddiad marchogaeth wedi'i drefnu a gymeradwywyd gan y Cyngor.

Siglenni coed a strwythurau eraill yr ydych chi wedi eu creu

Ni chaniateir siglenni coed a strwythurau eraill yr ydych chi wedi eu creu yn y Parc nac ar y traeth.

Cloddio

Gwaherddir cloddio yn y Parc ac yn y twyni tywod yn llwyr.

Datgelu Metal

Gwaherddir datgelu metel ar y traeth ac yn y Parc.

Gwarchod Adar ac Anifeiliaid Gwyllt a Gwahardd Hela

Ni chaniateir saethu ag unrhyw fath o arf taflu, trapio neu unrhyw fath o hela yn y Parc nac ar y traeth. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ganiatáu cystadlaethau saethu fel rhan o ddigwyddiad wedi'i drefnu gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Ni chaniateir i neb symud, tarfu na dinistrio unrhyw nythod neu wyau adar gwyllt na niweidio, gwaredu, lladd na hela unrhyw anifail neu aderyn gwyllt.
Ni chaniateir i neb osod na defnyddio unrhyw fagl neu unrhyw offeryn arall i ddal e.e. cawell neu ddulliau eraill ar gyfer cymryd, niweidio neu ladd unrhyw anifail neu aderyn gwyllt.

Coed, Llwyni a Blodau

Ni chaniateir i neb bigo, torri, difa, gwaredu neu ddifrodi unrhyw flodau, coed, llwyni neu blanhigion a ffyngau yn y parc na'r traeth. Mae rhai planhigion yn beryglus os cânt eu bwyta neu eu cyffwrdd. Mae'n rhaid i bob ymwelydd gymryd gofal.

Gwaredu eitemau o'r parc

Ni chaiff neb waredu na dadleoli unrhyw eitem naturiol neu eitem wedi'i chynhyrchu o'r Parc na'r traeth e.e. pren, tywod, cerrig, bywyd gwyllt, planhigion heb awdurdod ysgrifenedig datganedig y Cyngor.

Codi Arwyddion a Hysbysiadau

Mae'n rhaid i bob ymwelydd ymgyfarwyddo a dilyn arwyddion y Cyngor boed dros dro neu'n barhaol. O bryd i'w gilydd efallai y bydd angen cyfyngu ar fynediad i rannau o'r Parc.

Cyfarfodydd

Ni chaniateir i neb gynnal unrhyw gyfarfod cyhoeddus, gorymdaith, arddangosiad, arddangosfa, digwyddiad milwrol, seremoni grefyddol, gwasanaeth, rali wleidyddol neu ddarlith yn y parc heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw.

Cyfrifoldeb y Parti neu'r Grŵp

Mae'n rhaid i blentyn/plant o dan 14 oed, parti neu grŵp fod yng nghwmni oedolion a nhw fydd yn gyfrifol am blant o dan 16 oed yn y parti neu'r grŵp hwnnw.
Ni ddylai neb waredu neu ymyrryd ag unrhyw hysbysiad neu arwydd a osodir yn y Parc at unrhyw ddiben. Ni chaniateir i neb roi unrhyw arwydd yn y parc heb gael caniatâd ysgrifenedig gan y Cyngor yn gyntaf.

Goruchwyliaeth

Mae'n rhaid i bob person yn y parc neu ar y traeth ddilyn cyfarwyddiadau unrhyw arwyddion a godwyd gan y
Cyngor. Mae'n rhaid i bob person yn y parc neu ar y traeth ddilyn cyfarwyddiadau swyddog o'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys gadael y parc pan ofynnir ichi wneud hynny a rhoi'r gorau i wneud unrhyw beth pan gewch chi gyfarwyddyd i wneud hynny. Disgwylir i ymwelwyr ddefnyddio'r parc a'r traeth yn unol â'r rheolau a'r rheoliadau hyn a pharchu'r amgylchedd naturiol a pheidio â gwneud unrhyw beth fyddai'n niweidiol i'r fflora a'r ffawna neu'n achosi niwsans neu aflonyddwch i ddefnyddwyr y Parc.

Cyfleusterau a Gweithgareddau

Ni fydd ad-daliadau mewn ffioedd parcio ceir os na fydd cyfleusterau/atyniadau ar gael. Mae'r perchennog yn cadw'r hawl i newid, addasu, canslo neu dynnu cyfleusterau/atyniadau yn ôl heb rybudd.

 

Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol neu amhriodol tuag at ymwelwyr neu’n gweithwyr.

Cosbau

Bydd methu â chydymffurfio â'r rheolau hyn yn golygu y gellir gofyn i chi adael y Parc neu'r traeth ar unwaith a gall olygu y gwrthodir mynediad yn y dyfodol. Os byddwch yn achosi difrod o unrhyw fath, bydd gofyn i chi dalu am y difrod ynghyd ag unrhyw gostau sy'n deillio o'r difrod neu sy'n gysylltiedig ag ef, gan gynnwys unrhyw ffioedd gweinyddu a phroffesiynol fel costau cyfreithiol. Os yw eich gweithredoedd yn groes i'r ddeddfwriaeth bresennol, efallai y byddwch yn wynebu erlyniad yn y llysoedd.

Eithriadau

Ni ystyrir unrhyw beth yn y rheolau a'r rheoliadau hyn i gyfyngu ar swyddog o'r cyngor, na'r gwasanaethau brys, wrth weithredu eu dyletswyddau.

Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i newid, addasu, ychwanegu at neu dynnu yn ôl y rheolau a'r Rheoliadau hyn heb rybudd ymlaen llaw.