Cyfleoedd Consesiwn 2027-2030
Safleoedd Hamdden Awyr Agored Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd ceisiadau ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd consesiwn masnachol ar draws ei safleoedd Hamdden Awyr Agored.
Rydym yn chwilio am weithredwyr profiadol, arloesol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sy’n gwella profiadau ymwelwyr wrth gefnogi twf a datblygiad parhaus ein cyrchfannau poblogaidd.
Cyfleoedd sydd ar Gael
Parc Gwledig Pen-bre
· Darparwr Gweithgareddau Awyr Agored
· Darparwr Gweithgareddau Iechyd a Llesiant
· Darparwr Gweithgareddau Traeth
· Gweithredwr Sawna
Maes Gwersylla Parc Gwledig Pen-bre
· Darparwr Gwasanaeth Golchdy
· Gweithredwr Becws Symudol
Maes Parcio ger Parc Gwledig Pen-bre
· Uned Arlwyo Symudol Bwyd Poeth
Parc Gwledig Pen-bre (Gwerthu Llaeth)
· Darparwr Peiriant Gwerthu Llaeth
Parc Dŵr Sandy
· Uned Arlwyo Symudol Hufen Iâ
· Uned Arlwyo Symudol Bwyd Poeth
Maes Parcio Bynea
· Darpariaeth Coffi a Bwyd
Doc y Gogledd
· Darparwr Gweithgareddau Dŵr
Parc Gwledig Llyn Llech Owain
· Darparwr Gweithgareddau
Harbwr Porth Tywyn
· Uned Arlwyo Symudol Hufen Iâ (Ardal Ddwyreiniol)
· Uned Arlwyo Symudol Hufen Iâ (Ardal Orllewinol)
· Uned Arlwyo Symudol Bwyd Poeth
· Darparwr Gweithgareddau Dŵr a Morol
· Gweithredwr Gwerthiant Cist Car yr Harbwr
· Gweithredwr Sawna
Coetiroedd Porth Tywyn
· Uned Symudol Diodydd Poeth
Cyfnodau Trwydded
Consesiynau Gwerthiant Cist Car Harbwr Porth Tywyn: 1 Chwefror 2027 hyd 31 Ionawr 2028
Pob Consesiwn Arall: 1 Chwefror 2027 hyd 31 Mawrth 2030
Gwybodaeth am Geisiadau
Gall ymgeiswyr wneud cais am un neu fwy o gyfleoedd consesiwn. Bydd pob cyfle yn cael ei asesu’n annibynnol yn erbyn y meini prawf gwerthuso a gyhoeddwyd.
Mae'r Cyngor yn ceisio gweithredwyr sy'n gallu dangos.
· Safonau rhagorol o wasanaeth cwsmeriaid
· Profiad perthnasol a gallu gweithredol
· Arferion gwaith diogel a phroffesiynol
· Cyfrifoldeb amgylcheddol
· Buddion i’r gymuned a llesiant
· Cynaliadwyedd ariannol a gwerth am arian
Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i beidio â dyfarnu consesiwn os na dderbynnir cais addas neu os nad yw’r cais yn bodloni’r meini prawf hanfodol a amlinellir yn y rhestr wirio gyflwyno.
Sut i Wneud Cais
Parc Gwledig Pen-bre
Ffôn: 01554 742368
E-bost: infopembrey@carmarthenshire.gov.uk
12 Canol Dydd ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026
Rhaid cyflwyno tendrau erbyn y dyddiad cau a bennwyd
Byddwch yn Rhan o Ddyfodol Hamdden Awyr Agored Sir Gaerfyrddin
Mae’r cyfleoedd consesiwn hyn yn darparu llwyfan rhagorol i fusnesau weithredu o fewn rhai o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Sir Gaerfyrddin.
Croesewir ceisiadau gan weithredwyr sy’n dymuno darparu gwasanaethau unigryw, cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n ategu ac yn gwella cynnig hamdden awyr agored Sir Gaerfyrddin.