Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddathlu bob blwyddyn mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, y tri gwasanaeth, ac amryw sefydliadau cefnogol.
Yn 2026, bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru ar 27 Mehefin ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae'r digwyddiad hwn, sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, yn gwahodd y cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.
Wedi'i gynllunio mewn cydweithrediad ag uwch-gynrychiolwyr o'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu, bydd y diwrnod yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau. Gall ymwelwyr edrych ymlaen at amrywiaeth gyffrous o arddangosfeydd ac arddangosiadau milwrol.
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn o ddathlu, cydnabyddiaeth ac ysbryd cymunedol yn un o’r digwyddiadau blynyddol yr edrychir ymlaen ato fwyaf yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan