Llwybr Pwmpen Calan Gaeaf
Ymunwch â ni ar ein Llwybr Pwmpen a dewch o hyd i'r cliwiau i ennill gwobr!
Ewch am dro drwy'r coetiroedd, dilynwch y cliwiau i ddod o hyd i'r atebion ond, pwy a ŵyr beth y gallech ddod ar ei draws ychydig ddyddiau cyn Calan Gaeaf!
Archebion ar gael rhwng 11am - 4pm
Gallwch archebu lle a throi fyny unrhyw bryd rhwng yr oriau hyn
Dyddiadau sydd ar gael: 25ain i 31ain Hydref
£6.50 y plentyn (Dim tâl i rieni/gwarcheidwaid) (Mae ffi parcio yn berthnasol)
Nid yw'n ad-daladwy
Mae'r lleoliad cychwyn yn y Cwt Golff i gasglu'r daflen gliwiau (casgliad olaf 3pm, adbrynwch y wobr cyn 4pm)
Addas ar gyfer cadeiriau gwthio ond byddwch yn ymwybodol eich bod o fewn y coetiroedd felly gallai fod yn anwastad
Caniateir cŵn ond rhaid iddynt ymddwyn yn dda a'u cadw ar dennyn bob amser, rhaid glanhau unrhyw lanast ar unwaith.