CWRS UNDYDD - SGÏO YN UNIG

Mynd i ffwrdd? Dim llawer o amser cyn i chi fynd. Mynd i ŵyl neu gyrchfan lle mae eira?

Beth am gofrestru ar gyfer pecyn dysgu undydd?

Os nad oes gennych lawer o amser, gall ceisio gwasgu dysgu sgil newydd mewn ffrâm amser cyfyngedig deimlo'n eithaf brawychus.

Peidiwch â becso, mae help ar gael!!!

Y gaeaf hwn rydym yn cynnig pecynnau dysgu sgïo undydd ar gyfer y dechreuwr llwyr.

Mae'r cwrs yn rhedeg rhwng 10am a 4pm ac mae'n cynnwys seibiant i ginio a lluniaeth.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch croesawu i'n byd gwych o lithro i lawr y llethrau.

Yn araf bach, bydd yn eich cyflwyno i lithro i lawr y llethr, rheoli eich cyflymder yna'ch cyfeiriad ac wedyn sgïo'n annibynnol i lawr llethrau bach, gyda'r nod o fynd i fyny'r bryn ar lifft sgïo.

Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu i 12 ac mae angen lefel resymol o ffitrwydd i sgïo drwy'r dydd.

Mae angen gorchuddio'r breichiau a'r coesau'n llawn, a rhaid gwisgo menig.

Dewch yn gynnar (15 munud) fel y gallwn ni ddarparu offer ichi.

Y gost: £120 i oedolyn

£85 i bobl ifanc (12 oed i 16 oed)

Beth sy’n rhan o'r cynnig: Llogi offer sgïo, yr holl hyfforddiant, seibiant i ginio a lluniaeth.

Ni roddir ad-daliad am y cwrs hwn.

Archebwch nawr