Taith Feicio dan arweiniad y Ceidwaid
Taith lawn
Dyddiad ac amserau
14 Ebrill 10am-1pm
29 Awst 11am-2pm
Lleoliad – Parc Gwledig Pen-bre - cwrdd yn y Ganolfan Sgïo.
Isafswm oedran 10+
Uchafswm nifer y bobl - 15
Cost - £15 fesul pen
Dewch â chinio Llenwch fflasg â diod. Neidiwch ar eich beic ac ymunwch â'r ceidwaid am daith yng nghanol coedwig Pen-bre. Ar hyd y ffordd, byddwn yn cadw llygad am olion anifeiliaid ac arwyddion ohonynt, bynceri cudd, platfformau trên lle mae gordyfiant a mwy…...
Yna byddwn yn gorffen drwy fynd ar daith yn ôl ar hyd traeth Cefn Sidan a'i longddrylliadau niferus.
Mae angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon oherwydd byddwn yn beicio oddi ar y ffordd, dros draciau graean a thywod.
Dewch â'ch diodydd/byrbrydau eich hun
Dewch â'ch beic eich hun sy'n addas ar gyfer y dasg a chyfarpar diogelu personol, helmedau ac ati (mae modd llogi beiciau yn y Ganolfan Sgïo)
Hanner Teithiau
Dyddiad
30 Mai 11am-12:30pm
21 Gorffennaf 10am-11:30am
Lleoliad – Parc Gwledig Pen-bre - cwrdd yn y Ganolfan Sgïo.
Isafswm oedran 10 +
Uchafswm nifer y bobl - 15
Dewch ag ychydig o fyrbrydau a fflasg o ddiod. Neidiwch ar eich beic ac ewch ar daith dan arweiniad y ceidwaid o amgylch y parc gwledig a rhannau o Goedwig Pen-bre. Ar hyd y ffordd, byddwn yn cadw llygad am olion anifeiliaid ac arwyddion ohonynt, bynceri cudd, platfformau trên lle mae gordyfiant a mwy…...
Yna byddwn yn gorffen drwy fynd ar daith yn ôl ar hyd traeth Cefn Sidan a'i longddrylliadau niferus.
Mae angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon oherwydd byddwn yn beicio oddi ar y ffordd, dros draciau graean a thywod.
Dewch â'ch diodydd/byrbrydau eich hun
Dewch â'ch beic eich hun sy'n addas ar gyfer y dasg a chyfarpar diogelu personol, helmedau ac ati (mae modd llogi beiciau yn y Ganolfan Sgïo)
Pris - £10.00 fesul pen gan gynnwys parcio