Taith Gerdded Ystlumod a Natur 

Dyddiadau –

·       28 Awst 8:30pm-10pm

·       23 Hydref 6:30pm-8pm

Cost - £8 y pen

Uchafswm nifer y bobl - 20 (dewch â thortsh)

Croesawir cŵn sydd dan reolaeth ar dennyn

Cwrdd yn y maes parcio.

🌙 Taith Gerdded gyda'r hwyr i weld Ystlumod a Bywyd Gwyllt y Nos 🦇

Ni ellir ei ad-dalu

Wrth iddi nosi, mae'r parc gwledig yn dod yn fyw...
Ymunwch â ni am Daith Gerdded gyda’r hwyr i weld Ystlumod, gan grwydro a darganfod byd diddorol bywyd gwyllt y nos, dan arweiniad dau geidwad profiadol.

🦇 Beth sydd ar y gweill?

  • Gwylio ystlumod yn hedfan a dysgu am eu hymddygiad
  • Defnyddio synwyryddion ystlumod i glywed eu galwadau
  • Gweld a dysgu am greaduriaid nos eraill, o dylluanod i foch daear
  • Taith dywys hamddenol drwy'r parc gwledig gyda'r cyfnos

🌌 Delfrydol ar gyfer:
Teuluoedd, archwilwyr ifanc, a'r rheiny sy'n dwlu ar natur ac sy'n awchu am weld beth sy'n digwydd yn y parc ar ôl iddi dywyllu.

🍃 Gallwch ddisgwyl:
Awyr y cyfnos, llwybrau hamddenol, tortshis disglair, synau dirgel, ac eiliadau hudolus bywyd gwyllt.

🔦 Dewch â:
Dillad cynnes, esgidiau cadarn, tortsh, ac ymdeimlad o ryfeddod.

Dewch i weld creaduriaid nos y parc gwledig 🌠
Pan fydd yr haul yn machlud, mae'r antur yn dechrau.

Archebwch nawr