🎃 Llwybr Pwmpenni ym Mharc Gwledig Pen-bre

24-31 Hydref 2026

Antur Calan Gaeaf i Anturiaethwyr Bach!

Ymunwch â ni yn ystod hanner tymor mis Hydref ar gyfer ein Llwybr Pwmpenni poblogaidd sy'n dychwelyd i Barc Gwledig Pen-bre am wythnos o hwyl Calan Gaeaf i'r teulu cyfan.

Mae'r Llwybr Pwmpenni, sy'n berffaith ar gyfer plant iau, yn mynd â chi ar antur arswydus drwy'r parc wrth i chi chwilio am gliwiau cudd a datrys dirgelwch Calan Gaeaf.

Casglwch eich taflen gliwiau o'r Ganolfan Ymwelwyr a bant â chi ar eich antur. Dilynwch y llwybr, dewch o hyd i'r cliwiau a chwblhewch yr her i gael trît Calan Gaeaf ar y diwedd.

P'un a ydych chi'n ymweld â theulu neu'n cwrdd â ffrindiau, mae'r Llwybr Pwmpenni yn ffordd wych o fwynhau'r awyr agored a chreu atgofion Calan Gaeaf hudolus.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiadau: 24 - 31 Hydref 2026
Amser: 11:00am - 4:00pm

Pris: Â£7.00 y plentyn (Ni ellir ei ad-dalu)
Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre

Beth mae'n ei gynnwys?

  • Llwybr Calan Gaeaf o amgylch y parc
  • Taflen gliwiau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr
  • Hwyl yn datrys posau rhyngweithiol
  • Gwobr ar ôl cwblhau'r her
  • Antur awyr agored i'r teulu cyfan
  • Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr awyr agored.

 

Gwybodaeth Archebu

Archebwch ddiwrnod o'ch dewis a dewch unrhyw bryd rhwng 11:00am a 4:00pm.

Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu'n fuan.


 

Archebwch nawr