Taith Sombis
🧟 Llwybr Sombis
Dydd Gwener 30 Hydref 2026
Dewch os ydych chi'n ddigon dewr...
Wrth i'r tywyllwch ddisgyn dros Barc Gwledig Pen-bre, mae rhywbeth brawychus yn deffro yn y goedwig...
Mae'r Llwybr Sombis yn dychwelyd am un noson yn unig, gan addo noson fythgofiadwy llawn braw, syrpreisys a phrofiadau â'r meirw byw.
Dewch o hyd i'ch ffordd ar hyd y llwybr wrth i sombis gamu allan o'r cysgodion a phrofi eich dewrder ar bob troad. Mae'r profiad Calan Gaeaf hwn yn llawn effeithiau atmosfferig ac eiliadau iasol ac felly mae'n berffaith ar gyfer gwefr-garwyr sy'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy brawychus.
Ar gyfer ymwelwyr iau a'r rhai sy'n newydd i ddigwyddiadau Calan Gaeaf, mae dwy sesiwn gyntaf y noson yn cynnig profiad llai brawychus.
Ar ôl hynny...
Bydd y sombis yn llawer mwy bywiog.
Gwybodaeth am Ddigwyddiadau
Pris: £9.50 (Ni ellir ei ad-dalu)
Dyddiad: Dydd Gwener, 30 Hydref 2026
Amser: Sesiynau ar gael rhwng 5:00pm ac 8:00pm
Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre
Gwybodaeth Bwysig
- Mae'r ddwy sesiwn gyntaf yn llai brawychus.
- Mae'r sesiynau hwyrach yn fwy brawychus ac maent yn fwy addas i gyfranogwyr hÅ·n.
- Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr awyr agored.
- Rhaid archebu ymlaen llaw.
***Medal i bob plentyn***
Ydych chi'n ddigon dewr?
Mae'r digwyddiad hwn yn boblogaidd iawn bob blwyddyn, felly peidiwch ag aros yn rhy hir cyn archebu.
Mae'r sombis yn aros...
