38ain Trochfa'r Tymor Blynyddol


Mentrwch i'r oerfel ac ymunwch â ni ar gyfer Trochfa'r Tymor am yr 38ain flwyddyn yn olynol ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Ymunwch â channoedd o bobl eraill a mentrwch i'r môr ar Ŵyl San Steffan i godi arian at achos da sy'n agos at eich calon, ond os nad ydych yn ddigon dewr, dewch i weld y digwyddiad gwallgof ac anhygoel hwn!
Sefydlwyd Trochfa'r Tymor ym 1984, ac mae wedi cael ei chynnal bob blwyddyn ers hynny, heblaw ar ddau achlysur – un oherwydd olew yn gollwng i'r môr a'r llall oherwydd bod y môr wedi rhewi! Mae pobl o bob oedran yn cymryd rhan gan gynrychioli amrywiaeth o elusennau, gyda'r mwyafrif mewn gwisg ffansi a gwisgoedd Nadolig lliwgar.

Dylai pawb sy'n cymryd rhan neu'n gwylio gyrraedd y parc erbyn 10.30am ar yr hwyraf, a bod yn barod ar y llinell gychwyn erbyn 10.45am (oherwydd y llanw mae'n debygol y bydd rhaid cerdded am tua 10 munud i'r llinell ddechrau o brif fynedfa traeth Cefn Sidan). – gewch chi benderfynu pa mor hir y byddwch yn aros yn y môr! Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan y RNLI a Gwylwyr y Glannau a fydd ar ddyletswydd drwy gydol y digwyddiad.

Gallwch gymryd rhan am ddim

*Bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo os bydd tywydd eithafol a allai beryglu diogelwch cyfranogwyr a gwylwyr, neu be bai argyfwng