Trochfa'r Tymor

Dewch i wynebu’r oerfel ac ymunwch â ni ar gyfer 39ain Trochfa'r Tymor blynyddol ym Mharc Gwledig Pen-bre!

Ymunwch â channoedd o rai eraill a chael dip yn y môr ar Ddydd San Steffan i godi arian at achos sy’n agos at eich calon, ond os nad ydych chi’n ddigon dewr dewch draw beth bynnag i weld y digwyddiad gwallgof ac ysblennydd hwn!

Ymunwch â ni ar draeth Cefn Sidan ar ôl y Nadolig, cofiwch eich dillad cynnes a'ch synnwyr digrifwch, p'un ai eich bod yn dymuno codi arian ar gyfer elusen o'ch dewis neu gefnogi un o'r elusennau anhygoel ar y safle, dyma ddigwyddiad i nodi yn eich dyddiadur.

 Hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo fel mentro i'r dŵr eich hunan, dewch i gefnogi'r rheiny sy'n ddigon dewr i wneud hynny yn eu gwisgoedd ffansi gwirion! Mae'n olygfa sy'n werth i'w gweld! 

Cofiwch gyrraedd yn gynnar ar gyfer yr amser dechrau o 11am.