🌿✨ WINGS IN THE WILLOW ✨🌿


Profiad Theatr Rhyngweithiol
Cyflwynwyd gan Forest Friends Theatre

Byddwch yn barod am daith hudolus i'r goedwig wyllt! Mae'r cynhyrchiad rhyngweithiol eleni, Wings in the Willow, yn gymysgedd bywiog o gân, dawns, drama, cerddoriaeth a chomedi – gan gyflwyno'r stori glasurol gan Kenneth Grahame mewn modd modern. 

Mae'r Coedwyr Gwyllt yn brwydro i warchod eu hafonydd a'u coedwigoedd rhag llygredd. Ond a fyddan nhw'n gallu perswadio Mr Llyffant, sydd mor ddiofal, i newid ei ffyrdd – neu hyd yn oed ddod yn arwr byd natur?

Dyma sioe ystyrlon a hudolus i bob oed. Peidiwch â'i cholli!

29 Awst, 2pm-4pm, y tu allan i'r Orsaf

Beth sydd wedi'i gynnwys:

Taflen pos am ddim - dewch o hyd i'r cliwiau i ennill gwobr fach

Gwobr am y wisg ffansi orau

Amser: 2pm tan 4pm

·       Cystadleuaeth Gwisg Ffansi 2pm

·       Cynhyrchiad theatr: 2.30pm

Bydd egwyl a chyfle i brynu byrbrydau a diodydd

Dewch i fwynhau'r gweithgareddau eraill yn y parc cyn y sioe o  Gwallgolff, Tobogan, Tiwbio, Llong Môr-ladron, Llwybr Arth a Maes Chwarae. Am ragor o wybodaeth am y parc, cliciwch yma: https://www.parcgwledigpenbre.cymru/

Gan mai cynhyrchiad awyr agored yw hwn heb orchudd, dewch yn barod ar gyfer pob tywydd

Dewch â'ch cadeiriau neu flancedi picnic eich hun.