Cwestiynau Cyffredin

Pa amser gallaf gyrraedd? 

Gallwch lofnodi mewn i'r safle gwersylla o 2pm. Peidiwch â phoeni os byddwch yn cyrraedd yn gynnar - gallwch fwynhau'r parc, y traeth a'r gweithgareddau tra byddwch yn aros. 

Beth yw'r hwyraf gallaf gyrraedd? 

8pm yw'r hwyraf y gallwch lofnodi mewn felly gwnewch yn siŵr eich bod ar y safle cyn hyn.

Pa amser sy'n rhaid i mi adael? 

Mae angen ichi fod wedi gadael y safle gwersylla erbyn 12pm er mwyn sicrhau bod popeth yn barod i'r gwersyllwyr nesaf gael ei fwynhau! 

Beth os nad ydw i'n barod i adael erbyn 12pm? 

Peidiwch â phoeni. Gofynnir ichi adael y wersyllfa erbyn yr amser hwnnw ond nid y parc. Gallwch dal fwynhau gweddill y parc a'i gyfleusterau. 

Beth yw'r nifer lleiaf o nosweithiau y gallaf aros?

Mae'n rhaid aros am o leiaf 2 noson ac o leiaf 3 noson yn ystod gwyliau banc. Os ydych yn dymuno aros am un noson, gallwch ffonio i weld a oes lle ar y dydd.

Sawl ci gallaf i ddod â nhw gyda fi? 

Gallwch ddod â hyd at dri chi fesul llain. 

A allaf i ddod ag unrhyw anifeiliaid anwes eraill? 

Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid anwes eraill.

Beth y mae llain â gwasanaeth llawn yn ei gynnwys? 

Mae llain â gwasanaeth llawn yn cynnwys trydan, gwastraff llwyd a dŵr. 

Sawl bloc amwynder sydd gennych? 

Mae 2 floc amwynder gydag ardaloedd i ddynion a menywod, gan gynnwys ystafell deulu ac ystafell hygyrch.

Mae gennyf babell - a allaf i gael cysylltiad trydan? 

Newyddion gwych - gallwch! Gallwch archebu cae trydan talu wrth fynd ar Faes P

Beth yw amp y llain? 

Mae'r opsiwn o gael hyd at 16 AMP trydan ym mhob llain.

Pa gysylltiadau sydd angen i mi ddod â nhw gyda mi? 

Ar gyfer llain drydan bydd angen i chi ddod â chebl â chysylltiad trydan

Ar gyfer llain wedi'i gwasanaethu'n llawn bydd angen pibell wastraff llwyd o leiaf 10m o hyd, pibell ddŵr o leiaf 10m o hyd a chebl â chysylltiad trydan. Gellir prynu y rhain o'r Ganolfan Ymwelwyr 

A oes modd i mi gael mwy nag un uned ar fy llain? 

Nac oes, dim ond un uned gysgu yr ydym yn ei chaniatáu fesul llain yn unol â'n rheoliadau Iechyd a Diogelwch. 

Pa mor fawr yw fy llain? 

Bydd eich llain yn o leiaf 10m x 10m. 

A allwn ni archebu llain benodol? 

Mae gennych yr opsiwn o 'Dewis eich Llain' a fydd yn gwarantu y llain a ddewiswch.

A allwn ni ailgylchu?                                                                  

Gallwch, mae ailgylchu yn orfodol yn unol â chyfraith Llywodraeth Cymru. 

A chaniateir beiciau trydan?

Wrth gwrs. Mae gennym bwyntiau trydan i wefru e-feiciau yn y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau 

A chaniateir sgwteri?

Na. Mae e-sgwteri yn anghyfreithlon yn y DU ar wahân i ddinasoedd prawf penodol ac mae modd eu defnyddio ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog. Nid ydym yn caniatáu defnyddio e-sgwteri ym Mharc Gwledig Pen-bre 

Roeddwn i eisiau llain heb drydan, a oes rhaid i mi ddefnyddio'r trydan?

Nid oes gan unrhyw leiniau ar Res Q unrhyw drydan o hyd, ond os ydych chi'n dewis lleiniau trydan talu wrth fynd, eich dewis chi yn llwyr yw p'un a ydych chi'n dewis prynu trydan ai peidio.

Faint yw trydan?

Codir tâl am drydan fesul KWH ac rydyn ni'n codi tâl arnoch chi am yr hyn rydyn ni'n ei dalu ar hyn o bryd sydd oddeutu 34c y KWH

Sut ydw i'n ychwanegu trydan?

Gellir ychwanegu credyd am drydan mewn sawl ffordd.

CYN EICH ARHOSIAD:

Cyn eich arhosiad gallwch brynu trydan ymlaen llaw trwy'r ardal westeion ar ein gwefan.

YN YSTOD EICH ARHOSIAD: 

Yn ystod eich arhosiad, gallwch ychwanegu at eich trydan naill ai trwy'r ardal westeion ar ein gwefan neu trwy e-pitch.co.uk lle gallwch fewngofnodi gyda'ch cyfeirnod archebu a'r rhif PIN ar flaen eich uned drydanol ar ochr y llain.

ALLAN O GREDYD:

Os ydych allan o gredyd, bydd y system talu wrth fynd yn cymryd ychydig funudau i newid eich pŵer yn ôl wedi i chi wneud taliad. Y ffordd gyflymaf o ychwanegu credyd a throi'ch trydan yn ôl yw trwy wefan e-pitch.co.uk gan ddefnyddio'ch cyfeirnod archebu a'r rhif PIN ar flaen eich uned drydanol ar ochr y llain.

Mae nifer o ffyrdd o ychwanegu trydan. Y ffordd hawsaf yw mewngofnodi i'ch archeb ar yr ap neu trwy fewngofnodi i’r ardal westeion ar ein gwefan. Bydd hyn yn caniatáu ichi ychwanegu yr hyn sydd ei angen.

Does dim signal ar y safle, sut yr wyf yn ei wneud?

Mae gan ein holl adeiladau Wi-fi felly mae croeso i chi fewngofnodi, fel arall os ewch chi i borth y safle gwersylla wrth fynedfa'r safle gwersylla bydd gennym lechen yno y gallwch ei defnyddio.

Rwy'n aros am benwythnos. Faint o drydan ddylwn i fod yn ei brynu?

Mae faint o drydan sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar eich math o gerbyd a lefel eich defnydd.

Mae faint o drydan sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar eich math o gerbyd a lefel eich defnydd, Pris yw 35c y cilowat.

Sut ydw i'n gwybod bod fy nhrydan yn isel?

Gallwch fewngofnodi a gwirio eich balans trwy'r ap gwesteion ar unrhyw adeg. Pan fydd eich balans yn £1.50, byddwch yn derbyn nodyn atgoffa ar ffurf neges destun gan e-pitch.co.uk

Nid wyf am brynu trwy'r dull ar-lein a allaf brynu mewn ffordd arall?

Gallwch dalu trwy'r ganolfan ymwelwyr a all wneud cais am gredyd i'ch cyfrif ar ôl derbyn taliad.

Beth os oes gennyf arian yn fy nghyfrif wrth adael?

Byddwn yn ad-dalu unrhyw arian sydd yn eich cyfrif yn awtomatig i chi.

Pryd y dylwn i brynu trydan cyn cyrraedd?

Bydd prynu trydan yn rhan o'ch archeb felly pan fyddwch yn llofnodi mewn, bydd eich trydan ar gael

Pa geblau sydd eu hangen arnaf i ddefnyddio'r trydan ar lain talu wrth fynd?

Bydd angen gwifren â chysylltiad trydan arnoch y gellir ei phrynu o'n Canolfan Ymwelwyr neu unrhyw siop wersylla ag enw da

Mae gen i lain â gwasanaeth llawn, a oes angen i mi brynu trydan?

Nac oes, mae'r trydan eisoes wedi'i osod ac yn rhan o'r pris am eich llain

Alla i wneud pethau eraill gyda fy ardal westeion?

Gallwch, bydd modd i chi archebu llawer o weithgareddau ac ychwanegu cerbyd arall