Cwestiynau
dewch o hyd i'ch atebion
Cwestiynau
Pa amser gallaf gyrraedd?
Gallwch gyrraedd y wersyllfa o 2pm ymlaen. Peidiwch â phoeni os byddwch yn cyrraedd yn gynnar. Gallwch fwynhau'r parc, y traeth a'r gweithgareddau tra byddwch yn aros.
Beth yw'r hwyraf gallaf gyrraedd?
Cofiwch sicrhau eich bod yn cyrraedd erbyn 8pm fan hwyraf. Mae wardeiniaid y wersyllfa yn gweithio diwrnodau hir ac yn haeddu amser i ymlacio cyn eu patrolau nos.
Pa amser sy'n rhaid i mi adael?
Mae angen ichi fod wedi gadael y wersyllfa erbyn 12pm er mwyn sicrhau bod popeth yn barod i'r gwersyllwyr nesaf gael eu mwynhau!
Beth os nad ydw i'n barod i adael erbyn 12pm?
Peidiwch â phoeni. Gofynnir ichi adael y wersyllfa erbyn yr amser hwnnw ond nid y Parc. Gallwch dal fwynhau gweddill y parc a'i gyfleusterau.
Beth yw isafswm nifer y nosweithiau y gallaf aros?
Mae'n rhaid aros am o leiaf 2 noson.
Sawl ci gallaf i ddod gyda fi?
Gallwch ddod â hyd at dri chi fesul llain.
A allaf i ddod ag unrhyw anifeiliaid anwes eraill?
Fel arfer, mae anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn cewyll yn iawn er enghraifft moch cwta, bochdew ond ni allwch ddod â chathod.
Beth y mae llain â gwasanaeth llawn yn ei chynnwys?
Mae llain â gwasanaeth llawn yn cynnwys trydan, gwastraff llwyd a dŵr
Sawl bloc amwynder sydd gennych?
Mae 2 floc amwynder gydag ardaloedd i ddynion a menywod, gan gynnwys ystafell deulu ac ystafell i bobl anabl
Mae cyfanswm o: 8 toiled i ddynion ac 8 wrinal, 10 toiled i fenywod
12 cawod i ddynion, 12 cawod i fenywod
Mae gennyf babell - a allaf i gael cysylltiad trydan?
Newyddion gwych - gallwch! Gallwch archebu llain â gwasanaeth llawn
Beth yw amp y llain?
Mae'r llain drydan yn 10amp. Mae llain â gwasanaeth llawn yn 16amp.
Pa gysylltiadau sydd angen i mi ddod â nhw gyda mi?
Ar gyfer llain drydan bydd angen i chi ddod â chebl cysylltiad trydanol.
Ar gyfer llain â gwasanaeth llawn, bydd angen pibell gwastraff llwyd arnoch hyd at 25 troedfedd, pibell ddŵr hyd at 25 troedfedd a chebl cysylltiad trydanol.
A oes modd i mi gael mwy nag un uned ar fy llain?
Nac oes, dim ond 1 uned gysgu yr ydym yn ei chaniatáu fesul llain yn unol â'n rheoliadau Iechyd a Diogelwch
Pa mor fawr yw'r llain?
Bydd eich llain yn o leiaf 10m x 10.8m.
A allwn ni archebu llain benodol?
Mae 'Pick a Pitch' yn opsiwn a fydd sicrhau bod gennych y llain rydych yn ei dewis
A allwn ni ailgylchu?
Gallwch. Rydym yn mynnu eich bod yn ailgylchu! Mae hyn yn eithriadol o bwysig i ni. Rydym yn ailgylchu pob peth y gallwn ni yn y wersyllfa er mwyn gwneud ein rhan i'r amgylchedd.
A yw beiciau trydan yn cael eu caniatáu?
Ydynt. Mae gennym bwyntiau trydan i wefru e-feiciau yn y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau.
A yw sgwteri trydan yn cael eu caniatáu?
Nac ydynt. Mae e-sgwteri yn anghyfreithlon yn y DU ar wahân i ddinasoedd prawf penodol a'u defnydd ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog. Nid ydym yn caniatáu defnyddio e-sgwteri ym Mharc Gwledig Pen-bre.