Lleiniau Tymhorol
Arhosiadau estynedig
Lleiniau Tymhorol
Beth am osgoi'r drafferth o osod, tynnu a storio eich carafán neu'ch pabell gydol y tymor drwy gael llain dymhorol yn y Parc? Mae'n ganolbwynt gwych ar gyfer crwydro'r ardal leol ac yn fan canolog delfrydol ar gyfer archwilio mwy o'r trysorau sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin. Mae gennym nifer cyfyngedig o leiniau ar gael gan gynnwys rhai â thrydan, rhai heb drydan, a'n lleiniau newydd â gwasanaethau llawn sydd â'u cyflenwad dŵr eu hunain a phwyntiau gwastraff llwyd.
Mae'r opsiynau'n cynnwys tymor llawn (1af Mawrth – 31ain Hydref)
Trydan | £2511.60 |
Heb Drydan | £1554.80 |
Gwasanaeth Llawn | £2990.00 |
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb ar gyfer lleiniau tymhorol, cysylltwch â'r Ganolfan Ymwelwyr drwy ffonio 01554 742435 neu drwy e-bostio camppembrey@sirgar.gov.uk.
Sylwer: Y cyntaf i'r felin fydd hi o ran neilltuo lleiniau tymhorol.
Gall y Parc hefyd ddarparu ar gyfer ralïau carafanau. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth
Cyfleusterau
- Hygyrchedd
- Croesawu cŵn
- Parcio
- Toiledau
- Caffi
- Canolfan Ymwelwyr
- Llwybr Arfordir Cymru