Cyfleusterau Cawodydd a Thoiledau Newydd a Lleiniau Trydan Talu-wrth-Ddefnyddio wedi'u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn falch o gyhoeddi agoriad cyfleusterau cawodydd a thoiledau newydd o'r radd flaenaf, ynghyd â lleiniau trydan talu-wrth-ddefnyddio sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 
Mae'r datblygiad hwn yn nodi gwelliant sylweddol i'n cyfleusterau ar gyfer gwersyllwyr, gan ddarparu gwell cyfleusterau a chyfleustra i’r holl ddefnyddwyr.
Mae Parc Gwledig Pen-bre Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio'i gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin i fuddsoddi mewn cyfleusterau cawodydd a thoiledau newydd o'r radd flaenaf, ynghyd â lleiniau trydan arloesol talu-wrth-ddefnyddio yn y safle gwersylla. 
Manylion am y Cyfleusterau
Mae'r cyfleusterau cawodydd a thoiledau newydd wedi'u cynllunio gyda nodweddion modern, ecogyfeillgar i sicrhau safon uchel o hylendid a chynaliadwyedd. Mae'n cynnwys:
• Cawodydd mawr gyda thymheredd dŵr y gellir ei reolir
• Toiledau hygyrch gyda systemau glanweithdra gwell
• Goleuadau ac awyru ynni-effeithlon
• Gosodiadau arbed dŵr
Lleiniau Trydan 
Mae'r lleiniau trydan talu-wrth-ddefnyddio yn cynnig ateb hyblyg a chost-effeithiol i ymwelwyr sydd angen mynediad at drydan. Mae'r lleiniau hyn yn cynnwys:
• Pwyntiau trydan diogel
• System dalu hawdd ei defnyddio
• Monitro defnydd amser real
• Ffynonellau pŵer sy'n gydnaws â'r amgylchedd 
Cwblhawyd y ddau brosiect gan fusnesau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: 

Rydym wrth ein bodd i weld y cyfleusterau hyn yn cael eu cwblhau a byddant o fudd mawr i'r gymuned. Fel Awdurdod Lleol, ein nod yw cefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd ac sy’n gwella ansawdd ac mae'r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â'r genhadaeth honno. Bydd y cyllid yn galluogi i Barc Gwledig Pen-bre ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal, rhoi hwb i dwristiaeth leol, a darparu profiad mwy pleserus i wersyllwyr."

Disgwylir i'r cyfleusterau newydd ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal, rhoi hwb i dwristiaeth leol, a darparu profiad mwy pleserus i wersyllwyr. Trwy gynnig cyfleusterau modern a mynediad trydan hyblyg, rydym yn gwella apêl ac ymarferoldeb cyffredinol y safle. 
Datganiad i'r Wasg

 
Coroni Parc Gwledig Pen-bre yn Safle Gwersylla Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru

Mae Parc Gwledig Pen-bre, un o atyniadau ymwelwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch o gyhoeddi ei lwyddiant diweddar wrth iddo ennill Gwobr y Safle Gwersylla Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru.  Mae'r wobr fawreddog hon yn tynnu sylw at ymroddiad y parc i ddarparu cyfleusterau eithriadol, gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, a phrofiad awyr agored bythgofiadwy i ymwelwyr.

Yng nghanol 500 erw o barcdir godidog ac yn cynnig 8 milltir o draethau tywodlyd euraidd, mae Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig cyfuniad unigryw o harddwch naturiol ac amwynderau modern. Mae'r wobr yn cydnabod ymrwymiad parhaus y parc i ragoriaeth, cynaliadwyedd a darparu profiadau cofiadwy i deuluoedd, anturiaethwyr a'r rhai sy'n dwlu ar fyd natur fel ei gilydd.

O ganlyniad i'r cyflawniad gwych hwn, bydd Parc Gwledig Pen-bre bellach yn cynrychioli'r rhanbarth yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ar 27 Mawrth 2025. Bydd y llwyfan cenedlaethol hwn yn arddangos y gorau ym maes twristiaeth yng Nghymru, ac mae'r tîm ym Mharc Gwledig Pen-bre yn edrych ymlaen at rannu eu stori a'u hangerdd am letygarwch ar raddfa ehangach.

Yn 2025, yn sgil derbyn cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, bydd y safle gwersylla yn cyflwyno lleiniau talu wrth ddefnyddio i gyd-fynd â'r targedau a osodwyd gan yr agenda werdd. Hefyd, bydd bloc amwynderau newydd yn cael ei adeiladu i gymryd lle'r cyfleuster gwreiddiol o'r adeg yr agorwyd y safle gwersylla gyntaf.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Dwristiaeth, ei bod wrth ei bodd â'r gydnabyddiaeth: "Mae'r wobr hon yn dyst i waith caled, angerdd ac ymroddiad ein tîm cyfan ym Mharc Gwledig Pen-bre. Rydym yn hynod falch o dderbyn yr anrhydedd hon ac yn edrych ymlaen at gynrychioli de-orllewin Cymru yn y gwobrau cenedlaethol."

Mae'r parc yn gwahodd ymwelwyr, rhai hen a newydd, i brofi'r swyn a'r rhagoriaeth a arweiniodd at ennill y wobr hon. Gyda datblygiadau cyffrous ar y gorwel, gan gynnwys uwchraddio cyfleusterau ac ehangu'r hyn a gynigir, mae Parc Gwledig Pen-bre yn parhau i osod y safon ar gyfer hamdden awyr agored a gwersylla yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu eich ymweliad nesaf, ewch i: www.parcgwledigpenbre.cymru

Y diwedd

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:
Caio S Higginson
Rheolwr Cyfryngau
swyddfawasg@sirgar.gov.uk
01267 234567

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf!

facebook.com/PembreyCountryPark

instagram.com/pembreycountrypark/

Parc Gwledig Pen-bre – Mae antur yn aros amdanoch!