Parcio
Parc Gwledig Pen-bre - Tariff Parcio
1 Ebrill i 30 Medi - £5.00* am hyd at 2 awr neu £8.50 trwy'r dydd
1 Hydref i 31 Mawrth - £4.00* am hyd at 2 awr neu £5.00 trwy'r dydd
*Parcio diwrnod digwyddiad - Taliad trwy'r dydd yn unig
Bws - £16.00 Trwy'r dydd
Beic modur - £3.00 Trwy'r dydd
Gallwch dalu ar y safle unrhyw bryd yn ystod eich ymweliad. Mae peiriannau talu wedi'u lleoli yn y Caban Log, Mynedfa Traeth a Chanolfan Sgïo a Gweithgareddau
Trwyddedau Parcio
Ni chaniateir parcio dros nos
I ddiweddaru gwybodaeth ar eich trwydded barcio, e-bostiwch: gweithgareddaupenbre@@sirgar.gov.uk
Parc Gwledig Llyn Llech owain - Tariff Parcio
1 Awr - £1.50
Hyd at 2 awr - £2.20
Hyd at 4 awr - £2.50
Dros 4 awr (aros hir / trwy'r dydd) - £5.00
I brynu eich Trwydded Barcio Flynyddol, cliciwch YMA i gofrestru a phrynu trwy MiPermit
Ar gyfer trwyddedau parcio Parc Gwledig Llyn Llech Owain, ni ddylai cerbydau fod yn fwy na 3.5 tunnell o bwysau gros; Rhaid i gerbydau fod yn llai na 2 fetr (6 troedfedd 8 modfedd) o uchder; Cerbydau wedi'u hadeiladu'n unig ar gyfer cludo dim mwy nag 8 teithiwr heb gynnwys y gyrrwr
Ni chaniateir parcio dros nos
Parc Arfordirol y Mileniwm - Tariff Parcio
1 Awr - £1.50
Hyd at 2 awr - £2.20
Hyd at 4 awr - £3.30 (Doc y Gogledd a Pharc Dŵr y Sandy £3.50)
Dros 4 awr (aros hir / trwy'r dydd) - £5.00
I brynu eich Trwydded Barcio Flynyddol, cliciwch YMA i gofrestru a phrynu trwy MiPermit
Ar gyfer trwyddedau parcio Parc Arfordirol y Mileniwm, ni ddylai cerbydau fod yn fwy na 3.5 tunnell o bwysau gros; Rhaid i gerbydau fod yn llai na 2 fetr (6 troedfedd 8 modfedd) o uchder; Cerbydau wedi'u hadeiladu'n unig ar gyfer cludo dim mwy nag 8 teithiwr heb gynnwys y gyrrwr
Meysydd parcio: Bynea, Doc y Gogledd (Arhosiad Byr) Meysydd Gŵyl (Arhosiad Hir), Parc Dŵr y Sandy, Coetir Porth Tywyn (Arhosiad Hir), Dwyrain Harbwr Porth Tywyn (Arhosiad Hir), Gorllewin Harbwr Porth Tywyn (Arhosiad Hir), Ffordd y Rotari (Arhosiad Byr)
Ni chaniateir parcio dros nos
App MiPermit
Parcio di-arian ar gael ym mhob maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor
Nid oes rhaid i chi gofio dod ag arian parod i dalu am eich parcio mwyach, gan fod modd i ymwelwyr â threfi a phentrefi Sir Gaerfyrddin sy'n dymuno parcio mewn unrhyw faes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor bellach dalu am eu parcio drwy ap, gwefan neu dros y ffôn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Chipside i gynnig parcio di- arian i yrwyr ym mhob un o'i feysydd parcio oddi ar y stryd sy'n codi tâl.
Mae'r opsiwn i dalu am barcio drwy arian parod neu gerdyn ar gael o hyd, ond, mae modurwyr bellach yn gallu dewis talu drwy ap o'r enw MiPermit ar eu ffôn clyfar neu ddyfais. Gellir lawrlwytho'r ap MiPermit drwy ddefnyddio Apple App Store neu Google Play, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan MiPermit.
Bydd gwybodaeth am sut i lawrlwytho'r ap MiPermit hefyd ar gael ym mhob un o feysydd parcio'r Cyngor sy'n codi tâl yn ogystal â gwybodaeth am sut i dalu drwy wefan neu dros y ffôn.
Gellir hefyd prynu tocynnau tymor drwy'r ap MiPermit
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae hawlenni parcio yn caniatáu 2 gerbyd ar bob trwydded ond rhaid eu cofrestru i'r un cyfeiriad.
Dim ond 1 cerbyd y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg
Os oes angen newid rhif cofrestru, cyn belled â'i fod wedi'i gofrestru i gyfeiriad y cyfrif, anfonwch e-bost at infopembrey@sirgar.gov.uk gyda'r manylion newydd
Anfonir yr holl drwyddedau parcio drwy'r post drwy'r Post Brenhinol. Rydym yn postio pob trwydded o fewn 24 awr (Llun - Gwener) ond ni allwn fod yn gyfrifol am drwyddedau sydd yn mynd ar goll neu oediad. Byddwch yn ymwybodol o streiciau'r Post Brenhinol a allai achosi oedi pellach i'ch trwydded gyrraedd
Pen-bre Country Park | Hwb Llanelli | Hwb Rhydaman | Hwb Caerfyrddin |
---|---|---|---|
Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, SA16 0EJ | 36 Stryd Stepney, Llanelli, SA15 3TR | 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS | The hwb, Unit A, St Catherine's Walk, Carmarthen, SA31 1GA |
Lleoliad | Cost adnewyddu* | Swm Blynyddol |
---|---|---|
Parc Gwledig Pen-bre | £68.00* | £75.00 |
Llyn llech Owain | Ddim yn berthnasol | £35.00 |
Parc Arfordirol y Mileniwm | Ddim yn berthnasol | £52.00 |
* Rhaid cwblhau adnewyddu Trwyddedau Parcio Blynyddol o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i ben
Nid oes hawl i wersylla dros nos heb ganiatâd unrhyw le yn y parc gwledig neu Llwybr Arfordirol y Mileniwm . Caniateir gwersylla yn wersyllfa Parc Gwlegig Pen-bre yn unig rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref, neu gyda ralïau gwersylla sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw
Mae Trwyddedau Parcio 7 Diwrnod ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre ar gael i'w prynu o'r Ganolfan Ymwelwyr - £30.00