Cynadledda & Cyfarfodydd
Mae gennym ni le i chi
Llogi Ystafell Gyfarfod
Mae gan Barc Gwledig Pen-bre ystafell gynadledda ac ystafell gyfarfod amlbwrpas. Gellir gosod eich ystafell fel y mynnoch, megis fel theatr, dull ystafell fwrdd neu fel bwrdd cyfarfod.
Mae gan Barc Gwledig Pen-bre gysylltiadau ffordd ardderchog ac mae wedi'i leoli ychydig oddi ar brif ffordd yr A484 rhwng Caerfyrddin a Llanelli. Mae cyffordd 49 yr M4 ond byr o dro i'r dwyrain o Lanelli (tua 30 munud i ffwrdd) ac mae'r A40 yn cwmpasu'r ffordd i'r gorllewin ac i'r gogledd o Gaerfyrddin.
Cedar
Mae ystafell ddigwyddiadau Y Cedar wedi'i lleoli yn Yr Orsaf. Mae'n gallu dal hyd at 50 o bobl
Mae'r ystafell hon yn cynnwys offer clyweled, sgriniau, taflunydd, rhyngrwyd wi-fi, goleuadau pyladwy a system aerdymheru.
Cynllun yr ystafell | Lle |
---|---|
Theatr | 50 |
Siâp U | 24 |
Sgwâr Gwag | 30 |
Ystafell Ddosbarth | 30 |
Ystafell gyfarfod | 28 |
Llogi ystafell | |
---|---|
Yr awr | £25.00 |
Diwrnod llawn | £100.00 |
Canolfan Sgïo a Gweithgareddau
Mae'r ystafell gyfarfod yn y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau yn gallu dal hyd at 14 o bobl. Mae gan yr ystafell hon daflunydd a rhyngrwyd wi-fi.
Cynllun yr ystafell | Lle |
---|---|
Ystafell gyfarfod | 14 |
Ystafell Ddosbarth | 12 |
Llogi ystafell | |
---|---|
Yr awr | £25.00 |
Diwrnod llawn | £100.00 |
Opsiynau arlwyo
Cinio bwffe - Pecyn Efydd £7.50 y pen - Pecyn Arian £10 y pen - Pecyn Aur £12.50 y pen
Cyfradd y pen y dydd -O leiaf 10, dim tâl ychwanegol am logi ystafell
Pecyn Efydd £15 y pen - Pecyn Arian £20 y pen - Pecyn Aur £25 y pen
Mae'r pris yn cynnwys Te/Coffi a theisennau wrth ichi gyrraedd, diodydd yn ystod egwyl y bore, cinio, diodydd yn ystod egwyl y prynhawn yn dibynnu ar bris y pecyn
Llogi ystafell am ddim os archebir bwffe. Mae'r holl brisiau yn cynnwys TAW
Adeiladu Tîm
Yma ym Mharc Gwledig Pen-bre, gallwn gynnig amrywiaeth arbennig o weithgareddau adeiladu tîm i'ch difyrru yn ystod y diwrnod. Mae yna amrywiaeth o weithgareddau ar gael a fydd yn dod â'ch tîm ynghyd er mwyn bod pawb yn cael diwrnod difyr a llawn hwyl. I ategu eich diwrnod o weithgareddau, mae pecynnau'n dechrau o £12 y pen a gellir cynnwys llogi ystafell a lluniaeth hefyd.
Pecynnau Diwrnod ar gyfer Grŵp
Gellir teilwra ein pecynnau grŵp pwrpasol i gyd-fynd â gofynion eich timau. Dewiswch weithgareddau o golff i
Sgiliau byw yn y gwyllt, Glanhau'r Traeth neu Sgïo a llawer mwy
Gweithgareddau Adeiladu Tîm
Mae'r holl weithgareddau yn cael eu cynnal yng nghyffiniau'r parc oni nodir yn wahanol.
Mae pecyn bwyd hefyd yn rhan o'n pecynnau dydd os oes angen.