Dathlwch gyda ni
ffordd chi...
Digwyddiadau ac Achlysuron
Fel un o'r parciau gwledig mwyaf yn yr ardal, mae gennym brofiad o gynnal ystod eang o ddigwyddiadau ac achlysuron o wahanol faint yma yn Yr Orsaf.
Pan fyddwch yn chwilio am leoliad agos i gynnal cinio preifat, cynhadledd, cyfarfod neu ddiwrnod hyfforddi, neu i gynllunio dathliad mawr, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi i gynnal eich digwyddiad perffaith.
Wedi'i leoli wrth ymyl traeth euraidd Cefn Sidan sy'n 8 milltir o hyd a 500 erw o goetiroedd hyfryd ym Mharc Gwledig Pen-bre, mae gennym y cefndir perffaith ar gyfer creu diwrnod llawn o atgofion. Mae gennym hefyd ddewis gwych o fwydlenni sy'n addas i gyllideb pawb a byddwn yn gallu cynnig diwrnod bythgofiadwy i'ch holl westeion.
Mae ein tîm profiadol, proffesiynol wrth law bob cam o'r ffordd i sicrhau bod eich digwyddiad yn rhedeg yn llyfn a bod pob elfen yn cael y sylw haeddiannol.
Digwyddiadau â Themâu
Yn ystod y flwyddyn, rydym yn cynnal partïon â thema megis partïon Calan Gaeaf a the parti Elsa ac Anna ar gyfer y plant o bryd i'w gilydd. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cadwch lygad ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Partïon Pen-blwydd Plant
Opsiwn 1 - Parti Gweithgareddau £10 y pen
Dewiswch o un o'r gweithgareddau
Sgïo, Tiwbio, Gwallgolff, Golff Troed, Crefft y gwylltir, Helfa sborion
Taith Tobogan AM DDIM i BOB Plentyn
Gweithgareddau ychwanegol + £6
(Isafswm o 10 o bobl)
.........................................................................
Opsiwn 1 - Pecyn Parti Antur Eithaf £20 y pen
Beth sydd wedi'i gynnwys: Gweithgaredd (o'r rhestr uchod), Ystafell Parti, Diod, Bwyd a Hufen Iâ, Parcio. Taith Tobogan AM DDIM i bob plentyn
Gweithgareddau ychwanegol + £6
(Isafswm o 10 o bobl)
........................................................................
Opsiwn 3 - Bwyd yn Unig
Oes gennych chi eich cynlluniau eich hun? Gallwch logi Yr Orsaf ar gyfer eich dewis bwyd yn unig. Pris ar ymholiad
(Isafswm o 10 o bobl)
........................................................................
Gweithgareddau yn unig a Phecyn Parti Antur Eithaf
activitiespembrey@carmarthenshir.gov.uk
Bwyd yn unig: eatpembrey@carmarthenshire.gov.uk

Te prynhawn
Os ydych yn chwilio am le i ddod ynghyd fel teulu a ffrindiau neu i ddathlu achlysur, dewch i fwynhau sgon â hufen a jam a chael gwledd arbennig. Mae Te Prynhawn yn opsiwn perffaith ichi sbwylio eich hunain.

Pen-blwyddi ac Achlysuron Arbennig
Mae'n werth dathlu pob pen-blwydd neu achlysur arbennig, ond mae yna rai cerrig milltir yn haeddu eu dathlu. Mae'r eiliadau hyn yn rhai arbennig, felly os ydych chi eisiau dathliad mawr neu barti bychan gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, byddwn yn falch iawn o'ch helpu i gynllunio a dathlu eich achlysur arbennig.

Partïon Croesawu Babanod a bedyddiadau
Ychydig o ddigwyddiadau bywyd sy'n gallu cymharu â'r llawenydd o groesawu babi newydd i'r teulu. Mae partïon Croesawu Babanod neu Fedydd yn gyfnod arbennig i bawb ac yn ffordd berffaith o gyflwyno'r un bach i'r byd, a byddem wrth ein bodd yn eich helpu i gyflwyno'r croeso arbennig.

Dathliad i gofio unigolyn
I lawer o bobl mae angladd yn fwy na ffarwelio, mae'n gyfle i ddathlu bywyd rhywun a hel atgofion am yr hen amserau. Er gwaethaf yr amgylchiadau trist, mae'n aml yn gyfle i deulu a ffrindiau ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd. Mae gan ein tîm digwyddiadau proffesiynol cryn dipyn o ddealltwriaeth ac maent yma i'ch helpu chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Pecyn Swper a Dawns
Yma yn Yr Orsaf, rydym wedi creu pecyn sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar nod eich digwyddiad: codi arian i elusen. Bydd trefnydd digwyddiad pwrpasol yn eich helpu chi i gynllunio'ch diwrnod neu'ch noson, a hynny er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei gynnal mor hwylus â phosibl er mwyn creu diwrnod neu noson fythgofiadwy. Mae'r pecyn yn cynnwys: defnydd preifat o'r Ystafell Ddigwyddiadau a'r Bar.