Yr Orsaf

Bwyty â thrwydded lawn wedi'i leoli ym Mharc Gwledig hardd Pen-bre yw Yr Orsaf. Mae yma 500 erw o brydferthwch naturiol a thaith gerdded fer o draeth hudol Cefn Sidan sy'n 8 milltir o hyd.

Lle perffaith i'r teulu cyfan. Beth am ddechrau eich diwrnod gyda choffi barista blasus neu frecwast neu gael pryd clasurol amser cinio. Dyma le perffaith i ymlacio gyda'r nos ar ôl diwrnod o weithgareddau. Mae ein salad sydd wedi'i baratoi'n ffres a'n prydau blasus yn addas i bawb.

Os ydych yn aros dros nos neu ddim ond yn ymweld am y dydd yn ystod y penwythnos, dewch i flasu ein cinio rhost traddodiadol. Gadewch y gwaith golchi llestri inni a mwynhewch ein cinio rhost â'r holl drimins.

Ar agor drwy'r dydd o amser brecwast i amser swper.

Does dim angen archebu lle, dewch draw

Mae modd bwyta yn y bwyty neu gael cludfwyd

Gellir gofyn am wybodaeth alergedd am yr eitemau ar ein bwydlen. Yn ystod pob ymweliad, os oes gennych unrhyw ofynion, dywedwch wrthym, gan fod ein ryseitiau yn newid

Oriau agor:

10am - 5pm pob dydd

Brecwast 10am - 11.30pm

Cinio - 12pm - close

Wyliau'r ysgol 9.30am - 6pm

Ardal patio

Mae ein patio newydd  ar agor o 10am p’un a ydych am aros am ffwrdd, ddiod neu ginio/swper hyfryd.

Nid oes angen archebu lle gan fod llawer o seddi ar gael p'un a ydych yn chwilio am gysgod o dan seddau gyda ymbarél neu bwth i cadw allan o'r haul, y gwynt neu'r glaw.