Darganfod, Cwrdd, Chwarae ffordd chi ...

Caiff Rheilffordd Fechan Pen-bre ei chynnal a'i rheoli'n wirfoddol gan Beirianwyr Modelau Llanelli a'r Cylch, sy'n cynnwys pobl sy'n dwlu ar beirianneg a rheilffyrdd.

Ddwywaith y flwyddyn ym Mharc Gwledig Pen-bre, cynhelir Rali Stêm. Yn ystod y ddau benwythnos hyn, daw pobl a chlybiau brwdfrydig â'u cerbydau ffordd a'u trenau stêm eiconig ynghyd i'r Parc er mwyn eu harddangos. Mae'r digwyddiadau hyn yn wledd go iawn i'r llygaid ac yn sicr yn werth nodi yn eich dyddiaduron!

Cadwch lygad ar ein tudalennau digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Amseroedd Agoriadol

O'r Pasg Ymlaen: Dydd Sul

Yn ystod gwyliau ysgol rhwng y Pasg a mis Medi mae hefyd yn gweithredu ar ddydd Sadwrn.

Prisiau

Oedolion £ 1.50

Plant £ 1.50 Amseroedd agor

Cyfleusterau