Cwestiynau Cyffredin
Llwybr Goleuadau'r Nadolig - Cwestiynau Cyffredin
Archebu a Pharcio
- Sut ydw i'n archebu lle ar gyfer y Llwybr Goleuadau?
Does dim angen archebu lle ar gyfer y Llwybr Goleuadau. Mae'r llwybr yn rhad ac am ddim (bydd rhaid talu am barcio - £8.00).
- Pryd mae'r Llwybr Goleuadau yn cael ei gynnal?
Mae'r Llwybr Goleuadau yn agor ar 5 Rhagfyr hyd at 22 Rhagfyr, 5pm – 9pm.
- A alla i dalu am barcio ar y noson?
Gallwch, ond rydyn ni'n eich cynghori i dalu am eich parcio ymlaen llaw gan y bydd hyn yn arbed amser ac unrhyw giwiau ar y noson. Gallwch dalu ymlaen llaw yma: https://www.parcgwledigpenbre.cymru/hawlen-parcio-flynyddol/
- Mae gen i Hawlen Barcio, oes angen i mi dalu mwy i barcio?
Nac oes, rydych chi eisoes wedi talu am flwyddyn gyda'ch hawlen barcio.
- Ble bydd y cyfleusterau parcio?
Ym Maes y Mynachod. Trowch i'r chwith ar ôl y rhwystr a byddwch chi'n gweld y tîm i'ch cyfeirio i le parcio.
- A fydd parcio i bobl anabl?
Bydd, rhowch wybod i aelod o'r tîm pan fyddwch chi'n cyrraedd y maes parcio. Mae'r lleoedd parcio i bobl anabl wrth ochr y fynedfa i'r llwybr.
- A alla i gael ad-daliad am barcio ymlaen llaw os nad ydw i’n dod?
Na allwch, ni allwn ad-dalu ffioedd parcio pobl os nad ydyn nhw'n dod.
- A fydd y Llwybr yn cael ei ganslo os yw'n bwrw glaw?
Na fydd, ni fydd y digwyddiad yn cael ei ganslo ond rydyn ni’n eich cynghori i wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd. Dim ond oherwydd tywydd garw fel gwyntoedd cryfion a niwl isel drwy'r llwybr y bydd y llwybr yn cael ei ganslo.
Gweithgareddau a Siôn Corn
- A oes rhaid archebu i weld Siôn Corn?
Oes, mae'n rhaid i chi archebu ymlaen llaw. Ni allwn addo y bydd amseroedd ar gael ar y noson heb archebu ymlaen llaw, er y gall amseroedd fod ar gael yn dibynnu ar y ciwiau ar y pryd: Gallwch archebu ymlaen llaw yma: https://www.parcgwledigpenbre.cymru/be-symlaen/digwyddiadau/sion-corn-yn-y-coetir-7-22-rhagfyr/
- Ble bydd Siôn Corn?
Bydd Siôn Corn yn ei gaban yn y coetir sydd tua hanner ffordd drwy'r Llwybr Goleuadau ger y caban Siocled Poeth.
- A ydych chi'n cynnal sesiwn synhwyraidd?
Ydyn, rydyn ni wedi neilltuo 10 Rhagfyr ar gyfer y Noson Sesiwn Synhwyraidd a gallwch hefyd ymweld â Siôn Corn ar y noson honno drwy archebu yma: https://www.parcgwledigpenbre.cymru/be-symlaen/digwyddiadau/sesiwn-llwybr-goleuadaur-nadolig-syn-gyfeillgar-ir-synhwyrau/
- Pa mor hir yw'r sesiwn tiwbio?
Mae'r sesiwn tiwbio yn para 30 munud ac mae ar gyfer plant 6 oed a throsodd.
- Beth yw'r terfyn oedran ar gyfer y toboganau?
Yr isafswm oedran yw 3 oed a rhaid i bob plentyn 3 - 8 oed fod yng nghwmni oedolyn ar y toboganau. Gallwch archebu tobogan ar ôl iddi dywyllu rhwng 4pm a 6pm. Ar ôl yr amser hwn bydd rhaid talu a chiwio.
- A oes Ffair Grefftau eleni?
Nid ydym yn cynnal y penwythnos Ffair Nadolig Draddodiadol ond mae cabanau Nadolig amrywiol gyda chrefftau ac anrhegion bob nos yn ystod y llwybr goleuadau.
- A fydd ffair bleser?
Bydd ffair bleser gyda reidiau addas i blant iau a hŷn.
- A alla i gael ad-daliad am weithgaredd os na alla i ddod mwyach?
Na allwch, ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am y gweithgareddau.
- Beth os yw'r digwyddiad yn cael ei ganslo oherwydd tywydd garw - beth sy'n digwydd i'm harchebion?
Byddwn yn ceisio trefnu noson arall i chi ond bydd amseroedd cyfyngedig gan rai pethau fel tiwbio, bydd parcio a Siôn Corn yn cael eu trefnu ar ddiwrnod gwahanol. Os na allwn drefnu noson arall, wrth gwrs cewch eich ad-dalu.
Y llwybr
- Faint o'r gloch mae'r Llwybr Golau yn agor?
Mae'r llwybr golau ar agor rhwng 5pm - 9pm bob nos
- Pa mor hir yw'r llwybr?
Mae pawb yn cerdded ac yn mwynhau'r llwybr ar gyflymder gwahanol. Bydd y rhan fwyaf o deuluoedd yn cymryd tua 30-45 munud ac nid yw'n llwybr hir ond rydyn ni'n eich gwahodd i fwynhau'r holl arddangosiadau.
- A yw'r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau?
Mae'r llwybr ychydig yn anwastad mewn rhannau ond mewn tywydd sych mae'n addas. Os cewch unrhyw broblemau, rhowch wybod i aelod o'r tîm a gallwn helpu.
- A alla i ddod â chi?
Mae croeso i gŵn, ond rydyn ni'n mynnu eu bod yn cael eu cadw ar dennyn byr bob amser a bod yr holl faw cŵn yn cael ei godi.
- Beth yw'r amser diweddaraf y gallaf fynd ar y llwybr
Mynediad olaf i'r llwybr yw 8.30pm
Bwyd, Diod ac Adloniant
- A fydd bwyd ar gael?
Bydd bwyd ar gael drwy Arlwyo Awyr Agored a'r caban Siocled Poeth ar y llwybr.
- A fydd yna adloniant?
Bob nos, bydd adloniant byw ym mhabell y digwyddiad.
- Oes modd i mi dalu â cherdyn?
Byddwn yn derbyn arian parod neu gerdyn, ond yng nghanol y coed gall y signal ar gyfer y cerdyn fod yn anoddach.
Dewch i fwynhau'r llwybr goleuadau, mae'r tîm yn gweithio'n galed i greu a gwneud y propiau i chi eu mwynhau. Gofynnwn i chi gael gwared ar eich gwastraff a'ch bod yn parchu eich gilydd a'r tîm.
Nadolig Llawen