Cyfeiriannu

Mae ein cwrs Cyfeiriannu wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018. Rydym wedi gweithio'n agos gyda grŵp cyfeiriannu lleol profiadol er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'r cwrs gorau posibl.

Gellir lawrlwytho'r mapiau yma, a hoffem weld eich lluniau.

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn fan delfrydol i ddysgu sgiliau defnyddio map a chwmpawd. Mae'r cyrsiau'n darparu ar gyfer pobl o bob gallu. Mae'r cwrs Cyfeiriannu'n cynnig tirweddau hardd, hanes a bywyd gwyllt yn ogystal ag ystod eang o gyfleusterau.Mae ganddo themâu chwedlonol ategol sy'n cydblethu diwylliant, natur ac antur, ac mae wedi'i fwriadu ar gyfer cyfeirianwyr profiadol a'r sawl sy'n dechrau arni. Dylai dechreuwyr ddarllen yr adrannau esboniadol dilynol, ac yna dewis cwrs hawdd i roi cynnig arno. Mae cyfeiriannu yn weithgaredd hamdden pleserus sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen map. Gellir ei wneud hefyd fel camp gystadleuol fel y mae'r adran 'heriau' yn dangos.

Y NOD: Nod cyfeiriannu yw cwblhau cwrs sydd wedi'i wneud o gyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddewis llwybr rhyngddynt o'r map ac yna darllen y map i ganfod eich ffordd ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r pwyntiau rheoli.

PWYNTIAU RHEOLI A MARCWYR: Dangosir lleoliadau'r pwyntiau rheoli ar y map ar ffurf cylchoedd wedi'u rhifo mewn porffor, a rhoddir disgrifiad o bob un ar Garden Reoli ar wahân.

Caiff y pwyntiau rheoli eu marcio ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben y mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Ceir rhif, fel sydd ar y map, a llythyren yr ydych yn ei nodi yn y sgwâr priodol ar y 'garden' reoli ar eich map.

Y MAP: Mae hwn yn fap cyfeiriannu safonol sy'n dangos y ddaear a'r nodweddion; caiff y symbolau a'r lliwiau eu hesbonio yn yr eglurhad. Y raddfa yw 1:7,500 sy'n golygu bod 1 centimetr ar y map yn 75 metr ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa

 

Cyfeiriannu
Côd lliwiau Pa mor anodd yn dechnegol Sylwadau
Gwyn 1 I ddechreuwyr
Melyn 2 I ddechreuwyr
Oren 3 I bobl sy'n gwella
Coch 4 I'r sawl sydd am fynd ar daith gerdded neu redeg hir
Gwyrdd 5 I'r sawl sy'n brofiadol

PELLTEROEDD: Gellir cyfrif y pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr tua un cam mawr gan oedolyn.

CYFARWYDDIADAU: Pa gyfeiriad bynnag rydych yn mynd iddo neu'n wynebu, ceisiwch gadw'r map yr un ffordd o gwmpas â'r ddaear. Cadwch y map yn eich llaw. Cymharwch y map â'r ddaear yn barhaus a'r ddaear â'r map, fel eich bod yn gwybod ble ydych ar y map bob amser. Cadwch y map yn gyfeiriedig - gogledd ar y map tua'r gogledd go iawn - pa ffordd bynnag rydych yn mynd neu'n ei hwynebu: naill ai: trwy ddefnyddio cwmpawd: llinellau'r Gogledd ar y map yn pwyntio i'r un cyfeiriad â nodwydd y cwmpawd; neu: nodweddion llinol ar y map yn gyfochrog â'r un nodweddion ar y ddaear; wedyn, pan fyddwch yn camu yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr y map ar yr un ochr ar y ddaear.

Cadwch eich bawd ar y safle hysbys olaf ar y map.

Y CWMPAWD: Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hon i gadw'r saethau hir ar y map yn pwyntio tua'r gogledd. Mae'r cwmpawd yn hynod ddefnyddiol ar gyfer canfod cyfeiriadau manwl gywir ar draws ardaloedd sydd heb lwybrau a phenderfynu pa ffordd i fynd wrth gyffyrdd llwybrau ac ati.

Sut i ddefnyddio cwmpawd sylfaenol:

1 Gosodwch ymyl y cwmpawd ar hyd y cyfeiriad yr ydych am fynd iddo ar y map.

2 Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn cyfateb i linellau'r gogledd ar y map.

3 Tynnwch y cwmpawd oddi ar y map a'i ddal o'ch blaen, gan ei bwyntio ymlaen. TROWCH GYDA'R cwmpawd hyd nes bod y nodwydd yn cyfateb i'r llinellau yn y capsiwl.

4 Ewch ymlaen y ffordd y mae'r cwmpawd yn pwyntio.

Gall y cyrsiau fod yn sail ar gyfer cystadlaethau, neu gallant gael eu mwynhau fel her bersonol i ddod o hyd i'r pwyntiau rheoli'n effeithlon heb orfod poeni am amser. Arhoswch i fwynhau'r golygfeydd pryd bynnag y dymunwch

- ond peidiwch ag anghofio ble ydych ar y map!