Gwersi sgïo
Darganfyddwch sgïo
Gwersi sgïo
- Rhaid archebu pob gwers ymlaen llaw ar-lein.
- Mae'r gwersi yn dechrau ar y llethr ar yr amser a hysbysebwyd.
- Dylech gyrraedd o leiaf 20 munud cyn dechrau'r wers (neu efallai y gwrthodir mynediad i'r sesiwn).
- Rhaid gorchuddio'r breichiau a'r coesau yn llawn, a rhaid gwisgo menyg.
- Rhaid talu ffioedd parcio Parc Gwledig Pen-bre.
- Ar gyfer unrhyw ymholiadau, e-bostiwch gweithgareddaupenbre@sirgar.gov.uk
Sesiwn Hyfforddi Oedolion
Os hoffech chi wella eich sgiliau sgïo, mae ein sesiwn hyfforddi i oedolion ddydd Mawrth am 11am yn gyfle perffaith i wneud hynny.
P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n sgïwr o fri, bydd ein hyfforddwyr profiadol yn eich helpu i godi eich sgiliau sgïo i'r lefel nesaf.
Ac ar ôl y sesiwn, ymunwch â ni am sgwrs hamddenol dros goffi a chacen gyda phobl eraill sy'n frwd dros sgïo - mae'n ffordd wych o gysylltu ag eraill a rhannu eich cariad tuag at y llethrau!
£25 y pen yn cynnwys hyfforddiant am 1 awr, ymarfer am 30 munud, coffi a chacen.
...............................................................................
Gwersi mewn Grŵp
£16.50 y plentyn (5oed +) ac £23 yr oedolyn
Pris am 1 awr, yn cynnwys llogi offer a hyfforddiant.
MAE POB GWERS GRŴP YN PARA 1 AWR
..........................................................................
Clwb Plant Archebwch nawr
Bob bore dydd Sadwrn mi fydd clwb yn sgio yn cael ei rhedeg i blant yn unig. Mi fydd cyfle i gael hyfforddiant ac mae croeso i amrywiaeth o safonnau.
10.15 Clwb Pengwin 3-6
10:45am ar gyfer y rhai nad ydynt yn defnyddio'r lifft ar ein llethr i ddechreuwyr. 7-15
11:45am ar gyfer sgïwyr sy'n gallu defnyddio'r lifft botwm heb gymorth 7-15
...............................................................................
Gwersi Sgïo ac Eirafyrddio Preifat - FFONIWCH I ARCHEBU 01554 834443
Mae'r rhain ar gael i unigolion neu i grŵp bach o hyd at chwe sgïwr/eirafyrddiwr o allu tebyg. Mae gwersi preifat yn sesiwn un awr.
...................................................................................
Hyfforddiant Taith Sgio
Oes gennych chi daith wedi'i harchebu y gaeaf hwn?
Ydych chi'n ansicr beth i'w ddisgwyl?
Yng Nghanolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre mae gennym yr holl atebion i chi.
Gall ein tîm profiadol ac ymroddedig eich tywys trwy bopeth sydd angen ichi ei wybod am sgïo.
Gallwn ni eich addysgu am y "Ski Way Code". Côd ymddygiad ar gyfer defnyddwyr y llethr y mae'n rhaid i bawb gadw ato.
Gwahanol fathau o lifftiau sgïo a sut i'w defnyddio a sut rydych chi'n gwybod mai'r offer llogi a ddarperir yw'r offer cywir i chi.
Sesiynau bob dydd Sul ar ôl y 4ydd o Hydref am 11yb, a dyddiau Gwener yr ail o Hydref am 6yp.
6 wythnos
Oedolion £120 Pobl Ifanc £80 (12 oed i 16 oed)
Mae sesiynau'n rhedeg yn olynol, ni ellir ailadrodd un neu fwy o sesiynau sydd wedi'u colli.
Ni roddir ad-daliad am y cwrs.
Archebwch yma
...............................................................
DIM OND SGÏO
Un diwrnod. Un nod. Eich paratoi i sgïo!
Yn mynd ar wyliau sgïo? Mwynhewch ddiwrnod llawn ar y llethrau i ddatblygu eich sgiliau, hyder a thechneg cyn i chi fynd!
Oedran: 12+
Gallu: Dechreuwyr i sgïwyr profiadol
Hyd: Diwrnod llawn (10:30yb - 4:00yp)
Pryd?
Bydd ein sesiynau'n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
• Dydd Sul 25ain Hydref
Beth allwch chi ei ddisgwyl?
• Diwrnod llawn o hyfforddiant sgïo
• Gwella eich techneg a'ch hyder
• Paratoi ar gyfer eich gwyliau sgïo sydd ar ddod
• Awgrymiadau ac arweiniad arbenigol gan ein hyfforddwyr
• Cinio wedi'i gynnwys
Pris:
• Oedolion: £120
• Plentyn (12-16 oed): £85
Beth i'w wisgo:
Rhaid gwisgo top llewys hir, trowsus hir a menig.
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
|
Rhagflas Lefel1 |
Dechreuwr Llwyr |
|
Lefel 2 |
Aradr Eira Syth |
|
Lefel 3 |
Troadau Aradr Eira |
|
Lefel 4 |
Mireinio Troadau Aradr |
|
Lefel 5 |
Sgio Cyfochrog |
Gwers breifat
I gael yr elfen bersonol.
Mae'r rhain ar gael i unigolion neu grŵp bach o hyd at chwe sgïwr/eirfyrddiwr o allu tebyg. Mae gwersi preifat yn sesiwn un awr.
| Nifer y bobl | 1 | 2 | 3 | 4 |
|---|---|---|---|---|
| £50.00 | £75.00 | £100.00 | £125.00 |
Am fwy o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â 01554 834443
Cyfleusterau
-
Parcio
-
Toiledau
-
Caffi
-
Hygyrchedd
