Gwersi sgïo
Darganfyddwch sgïo

Dysgu sgïo!
Gwers awr o hyd / rhagflas i ddechreuwyr i'ch cael chi heibio'r camau cyntaf petrus hynny.
Pris am 1 awr, yn cynnwys llogi offer a hyfforddiant.
Mae'r gwersi i ddechreuwyr yn ddilyniant o'r Rhagflas, sydd ar gyfer dechreuwyr llwyr, i'r Aradr Eira Aur. I'r rheiny sy'n mynd ar eu gwyliau sgïo cyntaf, mae'r gwersi hyn yn hanfodol. Mae unrhyw fuddsoddiad o ran amser, ymdrech ac arian yn talu ar ei ganfed gan y bydd pobl yn mwynhau mwy, yn fwy diogel, ac yn cael mwy o werth am yr arian pan fyddant dramor.
Efallai yr hoffech chi....
AMSERAU GWERSI |
---|
RHAGFLAS | EFYDD | ARIAN | |
---|---|---|---|
Dydd Lun | 2pm + 6pm | 7pm | 8pm |
Dydd Mawrth | 2pm | ||
Dydd Mercher | 6pm | 7pm | 8pm |
Dydd Iau | 2pm | 4pm | |
Dydd Gwener | 2pm | 3pm | |
Dydd Sadwrn | 2pm | 3pm | 4pm |
Dydd Sul | 2pm | 3pm | 4pm |

Clwb plant
Bob bore Sadwrn, i blant 5-15 oed. Sesiwn hyfforddi hwyliog ar gyfer pob gallu. Pris yn cynnwys hyfforddiant, ymarfer a saib i gael lluniaeth.
10.15am – 12.30pm
£10.00 y plentyn
Archebu yn hanfodol

Sesiynau hyfforddi i oedolion
Dilyniant i'r cwrs i Ddechreuwyr neu'r rheiny sy'n gallu gwneud troadau eira. Hefyd o fudd i'r rheiny sydd ag ychydig yn unig o brofiad ar yr eira. Yn dda ar gyfer gwella gwybodaeth dechnegol a sgiliau personol.
Cysylltwch â 01554 834443 i holi

Gwers breifat
I gael yr elfen bersonol.
Mae'r rhain ar gael i unigolion neu grŵp bach o hyd at chwe sgïwr/eirfyrddiwr o allu tebyg. Mae gwersi preifat yn sesiwn ddwy awr, sef un awr o hyfforddiant ac un awr o ymarfer yn syth ar ôl hynny.
Nifer y bobl | 1 | 2 | 3 | 4 |
---|---|---|---|---|
£40.00 | £60.00 | £80.00 | £100.00 |