Llwybr Arfordirol y Mileniwm

Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail yn ogystal. Gellir llogi beiciau o Barc Sglefyrddio Ramps, sy'n llecyn annisgwyl braidd ar gyrion y dref ond sydd wedi denu sylw sglefyrddwyr o bell ac agos.

Yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm mae  bwytuy St Elli Bay, sy'n dod ag elfen o'r Riviera i'r Parc. Mae bwydlen y caffi'n cynnig amrywiaeth o giniawau ysgafn, byrbrydau, a diodydd eraill, ac mae rhywbeth addas i bawb sy'n ymweld â'r lle. Mae'n fan delfrydol i ymwelwyr â'r parc ymlacio a mwynhau'r golygfeydd hyfryd o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae yno giosg hufen iâ a maes chwarae antur hefyd, felly mae'n lle perffaith i gadw'r plant yn brysur.

Mae gan Barc Arfordirol y Mileniwm yn Sir Gaerfyrddin filltiroedd o lwybrau cerdded a beicio arfordirol i'w mwynhau. Gallwch ddilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 ar hyd llwybr di-draffig gwych sy'n pasio heibio aber prydferth afon Llwchwr a phenrhyn Gŵyr. Mae'r daith yn eich tywys heibio i draeth Llanelli a thraeth Tywyn i Borth Tywyn lle ceir harbwr pert, traeth a marina diweddaraf Cymru. Yna, wrth deithio yn ôl i'r dwyrain gallwch basio heibio i Barc Dŵr y Sandy a thraeth Machynys cyn dod i'r Ganolfan Gwlyptir Genedlaethol lle gallwch edrych am amrywiaeth o adar. Gallwch edrych am heidiau o bibyddion y mawn, cwtiaid torchog, pibyddion y tywod a phibyddion coesgoch ar hyd yr arfordir a gellir gweld hwyaid yr eithin, piod y môr a'r gylfinir ymhellach ar hyd y fflatiau llaid. Mae nodweddion poblogaidd eraill yn y Parc yn cynnwys y Ganolfan Ddarganfod wych lle ceir llwyth o wybodaeth am yr ardal mewn adeilad modern arbennig. Os hoffech barhau â'ch anturiaethau, gallech fynd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr arfordir i Barc Gwledig gwych Pen-bre lle ceir mwy o olygfeydd arfordirol godidog a llwybrau bywyd gwyllt drwy goetiroedd. Yn ogystal, mae modd ichi logi beiciau o Ganolfan Sgïo Pen-bre.

Parc gwledig Llyn Llech Owain

Llecyn 73 hectar (180 erw) yw Parc Gwledig Llyn Llech Owain, o dan reolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, lle ceir llwybrau natur, ardal antur sy'n cynnwys maes chwarae antur pren gwych, lle chwarae ar wahân i blant bach â nodweddion llai. Trwy ddilyn trac drwy'r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded neu feiciau hirach o amgylch y parc gwledig ac mae llwybr beiciau mynydd garw ar gyfer y beicwyr mwy anturus yn eich plith! Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mewn mannau eraill, ceir llecynnau o weundiroedd a choetiroedd llydanddail ac mae llecynnau o goetiroedd conwydd yn cael eu clirio a'u haddasu'n weundiroedd a choetiroedd llydanddail. Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel.

Dyma fan sydd o ddiddordeb hanesyddol ac efallai yr hoffai blant wybod yn ôl y chwedl, mai Owain Lawgoch oedd yn gofalu am y ffynnon ar fynydd Mynydd Mawr. Bob dydd ar ôl cael digon o ddŵr i'w hunan a'i geffyl, roedd Owain o hyd yn ofalus iawn i roi'r llechfaen yn ôl yn ei le er mwyn dal y dŵr i mewn. Fodd bynnag, un tro, fe anghofiodd y cwbl am wneud hyn a llifodd y dŵr fel afon i lawr ochr y mynydd. O ganlyniad, ffurfiwyd llyn ac fe'i henwyd yn Llyn Llech Owain! Saif y Ganolfan Ymwelwyr wrth ymyl y llyn ac o'r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o Lyn Llech Owain a'r ardal gyfagos. Yn y Ganolfan, ceir arddangosfa a gwybodaeth ynghylch rheolaeth y Parc Gwledig. Mae ein tîm o Barcmyn Cefn Gwlad yn gweithio yma a byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau neu glywed am unrhyw fywyd gwyllt rydych wedi'i weld. Mae gan Lyn Llech Owain gaffi, safleoedd picnic, a thoiledau ynghyd â darpariaeth ar gyfer pobl anabl. Gobeithio y byddwch yn mwynhau ymweliad â'r lle cyn bo hir!

Hwb Gwaith Llesiant

Ym mis Medi 2019, cafodd Parc Gwledig Llyn Llech Owain ei enwi yn un o ddeuddeg safle Porth Darganfod ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Gan ymestyn o Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl a Phen-y-bont ar Ogwr i Ferthyr Tudful, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar gyfer pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â Chymoedd De Cymru. Mae'r dirwedd unigryw hon yn addo profiadau cofiadwy i bawb: o aelodau o'r teulu o bob oed i gerddwyr, i bobl sy'n mwynhau cadw'n heini ac i'r rhai sydd am wneud ffrindiau newydd neu wirfoddoli. Dyma gyfle i chi ddatgelu straeon anhygoel y Cymoedd a dysgu mwy am ei threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog drwy gwrdd â phobl mewn trefi a phentrefi cyfagos, helpu i ddiogelu'r tirweddau ysbrydoledig neu fwynhau mynd allan i gael awyr iach; mae'r dewisiadau mor amrywiol â'r dirwedd newidiol.

Mae Pyrth Darganfod yn gyrchfannau i chi fwynhau'r dirwedd naturiol a deall mwy am hanes Cymoedd De Cymru. Mae Pyrth Darganfod yn fannau lle gallwch gael hwyl, archwilio'r dirwedd a darganfod mwy am fywyd gwyllt a chynefinoedd natur lleol. Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi enwi Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn Borth Darganfod gan ei fod yn un o'r nifer o leoedd anhygoel y gallwch ei ddarganfod yng Nghymoedd De Cymru.

 

Dysgwch fwy am y Pyrth Darganfod eraill sy'n rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
  • Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
  • Parc Gwledig Bryngarw
  • Castell Caerffili
  • Coedwig Cwmcarn
  • Parc a Chastell Cyfarthfa
  • Parc Gwledig Cwmdar
  • Parc Gwledig Llyn Llech Owain
  • Parc Bryn Bach
  • Parc Penallta
  • Gwarchodfa Natur Parc Slip
  • Parc a Lido Cenedlaethol Ynysangharad

 

I archebu Hwb Gwaith Llesiant

Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn cynnig Hwb Gwaith Llesiant gwych yn y Tŵr Darganfod sydd ar gael i'w logi am ddim i grwpiau neu unigolion gyfarfod a mwynhau'r natur wych o'ch cwmpas gan edrych allan i'r llyn ysblennydd yn y Parc Gwledig, neu fel arall, os hoffech gyfarfod â mwy na'r nifer sy'n gallu bod yn yr ystafell neu os hoffech gyfarfod y tu allan yn yr awyr iach, mae gan y parc loches gyfarfod yn yr awyr agored y gallwch ei defnyddio hefyd.

Mae'n debyg bod gweithio mewn amgylchedd naturiol yn hybu llesiant a chynhyrchiant, felly mae'r amgylchedd tawel sydd yma ar lan y dŵr yn ddelfrydol.

I archebu'r Hwb Gwaith Llesiant ar gyfer eich cyfarfod, i weithio ynddo am y diwrnod neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: HWBLLO@sirgar.gov.uk

 

Taliadau parcio ceir tymhorol
 
Mae Trwyddedau Parcio Blynyddol (1 flwyddyn) arhosiad hir ar gael i'w prynu gan Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Pen-bre.
 
Gallwch hefyd brynu neu adnewyddu eich trwydded barcio ar-lein. Cliciwch YMA
 
Neu yn yr HWB yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin