Llwybr Arfordirol y Mileniwm

Beth am gerdded neu feicio ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm, sy'n mynd o Lanelli i Barc Dŵr y Sandy, Porth Tywyn a Choedwig Pen-bre? Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail yn ogystal. Gellir llogi beiciau o Barc Sglefyrddio Ramps, sy'n llecyn annisgwyl braidd ar gyrion y dref ond sydd wedi denu sylw sglefyrddwyr o bell ac agos.

Yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm mae  bwytuy St Elli Bay, sy'n dod ag elfen o'r Riviera i'r Parc. Mae bwydlen y caffi'n cynnig amrywiaeth o giniawau ysgafn, byrbrydau, a diodydd eraill, ac mae rhywbeth addas i bawb sy'n ymweld â'r lle. Mae'n fan delfrydol i ymwelwyr â'r parc ymlacio a mwynhau'r golygfeydd hyfryd o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae yno giosg hufen iâ a maes chwarae antur hefyd, felly mae'n lle perffaith i gadw'r plant yn brysur.

Mae gan Barc Arfordirol y Mileniwm yn Sir Gaerfyrddin filltiroedd o lwybrau cerdded a beicio arfordirol i'w mwynhau. Gallwch ddilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 ar hyd llwybr di-draffig gwych sy'n pasio heibio aber prydferth afon Llwchwr a phenrhyn Gŵyr. Mae'r daith yn eich tywys heibio i draeth Llanelli a thraeth Tywyn i Borth Tywyn lle ceir harbwr pert, traeth a marina diweddaraf Cymru. Yna, wrth deithio yn ôl i'r dwyrain gallwch basio heibio i Barc Dŵr y Sandy a thraeth Machynys cyn dod i'r Ganolfan Gwlyptir Genedlaethol lle gallwch edrych am amrywiaeth o adar. Gallwch edrych am heidiau o bibyddion y mawn, cwtiaid torchog, pibyddion y tywod a phibyddion coesgoch ar hyd yr arfordir a gellir gweld hwyaid yr eithin, piod y môr a'r gylfinir ymhellach ar hyd y fflatiau llaid.

Os hoffech barhau â'ch anturiaethau, gallech fynd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr arfordir i Barc Gwledig gwych Pen-bre lle ceir mwy o olygfeydd arfordirol godidog a llwybrau bywyd gwyllt drwy goetiroedd. Yn ogystal, mae modd ichi logi beiciau o Ganolfan Sgïo Pen-bre.

Parcio

1 Awr - £1.20

Hyd at 2 awr - £1.80

Hyd at 4 awr - £2.80

Dros 4 awr (aros hir / trwy'r dydd) - £3.30

Blynyddol - £45.00

Ar gyfer trwyddedau parcio Parc Arfordirol y Mileniwm, ni ddylai cerbydau fod yn fwy na 3.5 tunnell o bwysau gros; Rhaid i gerbydau fod yn llai na 2 fetr (6 troedfedd 8 modfedd) o uchder; Cerbydau wedi'u hadeiladu'n unig ar gyfer cludo dim mwy nag 8 teithiwr heb gynnwys y gyrrwr

Meysydd parcio: Bynea, Doc y Gogledd (Arhosiad Byr) Meysydd Gŵyl (Arhosiad Hir), Parc Dŵr y Sandy, Coetir Porth Tywyn (Arhosiad Hir), Dwyrain Harbwr Porth Tywyn (Arhosiad Hir), Gorllewin Harbwr Porth Tywyn (Arhosiad Hir), Ffordd y Rotari (Arhosiad Byr)

*Ni chaniateir parcio dros nos