Newydd am 2020
Darganfod Antur
Darganfod, Chwarae ffordd chi...

Trac Pwmpio
Yn newydd i Barc Gwledig Pen-bre ar gyfer Haf 2020 yw’r Trac Pwmpio.
Mae'r trac pwmpio yn gylchdaith o roleri, troeon ar oledd a nodweddion sy'n creu momentwm wrth i chi feicio neu fyrddau sgrialu drwy "bwmpio" sef symud y corff i fyny ac i lawr, yn hytrach na phedalu neu wthio.
O feiciau mynydd i BMX a byrddau sgrialu, mae'r trac pwmpio yn gae chwarae ar gyfer pob math o olwynion. Drwy gyfuno twmpathau i neidio drostynt a throeon maent yn hygyrch i bawb.
AMODAU DEFNYDDIO …. BEICIWCH YN DDIOGEL A BYDDWCH YN DDIOGEL
- Nid yw'r trac yn cael ei oruchwylio. Byddwch yn ei ddefnyddio ar EICH MENTER EICH HUN.
- Mae'n orfodol i bawb wisgo helmed feicio.
- Argymhellir gwisgo menig, a phadiau pen-glin a phenelin.
- Defnyddiwch y trac i gyfeiriad clocwedd yn unig
- Rhaid i bob beiciwr o dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- Parchwch ddefnyddwyr eraill y trac. Mae'r cyfleuster hwn AR AGOR I BAWB
- Archwiliwch eich beic yn rheolaidd ac NI CHANIATEIR pegiau styntiau
- Gwaherddir beiciau modur, mini-motos, beiciau cwad neu gerbydau a reolir o bell a cherbydau model yn llwyr
- Ni chaniateir cŵn
- Dim bwyd na diod
Gwallgolff
Mae Gwallgolff yn gamp y mae pobl o bob oed a gallu yn ei mwynhau, a nod y gêm yw taro pêl o bwynt penodol i mewn i dwll mewn cyn lleied o ergydion â phosibl. Mae'r cyrsiau Gwallgolff yn cynnwys amrywiaeth o rwystrau diddorol a dyrys i chwaraewyr anelu'r bêl o dan, dros, uwchben ac o gwmpas y rhwystrau.
Math o gêm golff yw hwn sy'n cael ei chwarae ar gwrs bach er mwyn adloniant lle mae chwaraewyr yn ceisio taro peli i mewn i dyllau sydd â nodweddion a rhwystrau gwahanol a gymerwyd o'r parc a'r traeth.
Nod y gêm yw sgorio'r nifer isaf o bwyntiau. Pwy fydd enillydd eich teulu chi?
Nawr ar agor
Oedolion: £5.00 (16 oed +)
Plant: £4.00 (dan 16 oed)
Teulu: £ 17.50 (2 oedolyn a hyd at 3 o blant)