Mae'r parc yn cynnwys rhan o faes glo caled Sir Gaerfyrddin. Mae'r glo gwerthfawr hwn wedi'i godi drwy gloddio drifftiau, cloddio dwfn a chloddio glo brig.

Ym 1887, agorodd y teulu Waddell lofa Great Mountain (felly Mynydd Mawr) yn y Tymbl. Lleolwyd y pwll yng nghornel de-ddwyreiniol y parc ac roedd yn waith drifftiau hynod gynhyrchiol.

Daeth y gwaith cloddio am lo i ben yn y 1970au pan ddechreuwyd plannu'r conwydd sydd i'w gweld yn y parc.

Mae'r cymysgedd hwn o ffermdir a chloddio am lo gynt, sy'n ymestyn dros 200 erw, yn enghraifft wych o sut y gall natur, gydag ychydig o gymorth gan ddyn, adfer yn gyflym o effeithiau arferion dinistriol ac ymledol.

Mae'r rhan fwyaf o'r llystyfiant yn y parc yn llai na 60 mlwydd oed ac yn tyfu ar wastraff glo sydd wedi'i wneud yn wastad. Mae'r cymysgedd hwn o goetir a glaswelltir corsiog, sy'n llawn mwynau ond sydd â draeniad gwael, yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Mae'r gwastraff glo agored yn gartref i amrywiaeth eang o bryfed ac yn gynefin mosaig agored gwarchodedig, a bydd y coetir sy'n ymledu yn cael ei reoli i gadw ardaloedd gwastraff glo ar agor.

Mae'r coetir yn cynnwys cymysgedd o blanhigfeydd o byrwydden Sitca, pinwydden bolion a phinwydden Corsica ynghyd ag amrywiaeth eang o goed brodorol megis ffawydden, bedwen, derwen, collen, ac onnen gydag isdyfiant o fieri, eirinllys a rhedyn.

Mae'r dolydd a oedd wedi'u hau'n wreiddiol â chymysgedd o laswellt wedi dychwelyd i ddôl fwy naturiol a glaswelltir corsiog sy'n gyforiog o degeirianau a'r gribell felen ar ddechrau'r haf a thamaid y cythraul ar ddiwedd yr haf.

Mae'r ffermdir gynt yn cynnwys gweddillion gwrychoedd caeau a phorfeydd a dyma lle gellir gweld blodyn sirol Sir Gaerfyrddin, sef y carwe troellog.

Anogir ymwelwyr i grwydro'r parc gan ddefnyddio cyfres o lwybrau. Mae'r llwybrau ag arwyddion yn cael eu cynnal a'u cadw gan ein parcmyn; nid yw'r llwybrau heb eu nodi yn cael eu cynnal a'u cadw, ac argymhellir esgidiau da.

Dim ond ar hyd y llwybr ag arwyddion oren y caniateir marchogaeth ond dylai marchogion ildio i gerddwyr a beicwyr a allai hefyd fod yn defnyddio'r llwybr hwn. Ni chaniateir marchogaeth yn unman arall yn y parc.

Atgoffir cerddwyr cŵn i gadw eu cŵn dan reolaeth agos bob amser, ond yn enwedig rhwng mis Mawrth a mis Medi pan fydd adar yn nythu a bywyd gwyllt arall yn bridio.