Llyn Llech Owain
Hysbysiad Cau Llwybr Pren Llyn Llech Owain
- Mae'r llwybr pren ar gau dros dro er mwyn gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol.
Rydym yn deall y gall hyn fod yn siom ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Fodd bynnag, diogelwch ymwelwyr yw ein blaenoriaeth, ac mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y llwybr pren yn gallu ailagor yn ddiogel.
- Mae defnyddio barbeciws tafladwy wedi'i wahardd yn llym ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain bob amser.
Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Llecyn 73 hectar (180 erw) yw Parc Gwledig Llyn Llech Owain, o dan reolaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, lle ceir llwybrau natur, ardal antur sy'n cynnwys maes chwarae antur pren gwych, lle chwarae ar wahân i blant bach â nodweddion llai. Trwy ddilyn trac drwy'r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded neu feiciau hirach o amgylch y parc gwledig ac mae llwybr beiciau mynydd garw ar gyfer y beicwyr mwy anturus yn eich plith! Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Caffi Owain ar agor bob dydd o 10am - 4pm
Mewn mannau eraill, ceir llecynnau o weundiroedd a choetiroedd llydanddail ac mae llecynnau o goetiroedd conwydd yn cael eu clirio a'u haddasu'n weundiroedd a choetiroedd llydanddail. Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel.
Dyma fan sydd o ddiddordeb hanesyddol ac efallai yr hoffai blant wybod yn ôl y chwedl, mai Owain Lawgoch oedd yn gofalu am y ffynnon ar fynydd Mynydd Mawr. Bob dydd ar ôl cael digon o ddŵr i'w hunan a'i geffyl, roedd Owain o hyd yn ofalus iawn i roi'r llechfaen yn ôl yn ei le er mwyn dal y dŵr i mewn. Fodd bynnag, un tro, fe anghofiodd y cwbl am wneud hyn a llifodd y dŵr fel afon i lawr ochr y mynydd. O ganlyniad, ffurfiwyd llyn ac fe'i henwyd yn Llyn Llech Owain!
Saif y Ganolfan Ymwelwyr (AR GAU AR HYN O BRYD) wrth ymyl y llyn ac o'r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o Lyn Llech Owain a'r ardal gyfagos. Yn y Ganolfan, ceir arddangosfa a gwybodaeth ynghylch rheolaeth y Parc Gwledig. Mae ein tîm o Barcmyn Cefn Gwlad yn gweithio yma a byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau neu glywed am unrhyw fywyd gwyllt rydych wedi'i weld.
Mae gan Lyn Llech Owain safleoedd picnic, a thoiledau ynghyd â darpariaeth ar gyfer pobl anabl. Gobeithio y byddwch yn mwynhau ymweliad â'r lle cyn bo hir!
Maes chwarae
Mae'r maes chwarae sydd newydd eu hadnewyddu yn fwy hygyrch i bawb ac yn cynnwys offer hygyrch
Ni chaniateir cŵn yn y parciau Antur, ond mae meinciau picnic i chi ymlacio a mwynhau awyrgylch y parc tra bod y plant yn rhyddhau eu hegni.
I archebu Hwb Gwaith Llesiant
Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn cynnig Hwb Gwaith Llesiant gwych yn y Tŵr Darganfod sydd ar gael i'w logi am ddim i grwpiau neu unigolion gyfarfod a mwynhau'r natur wych o'ch cwmpas gan edrych allan i'r llyn ysblennydd yn y Parc Gwledig, neu fel arall, os hoffech gyfarfod â mwy na'r nifer sy'n gallu bod yn yr ystafell neu os hoffech gyfarfod y tu allan yn yr awyr iach, mae gan y parc loches gyfarfod yn yr awyr agored y gallwch ei defnyddio hefyd.
Mae'n debyg bod gweithio mewn amgylchedd naturiol yn hybu llesiant a chynhyrchiant, felly mae'r amgylchedd tawel sydd yma ar lan y dŵr yn ddelfrydol.
Parcio
1 Awr - £1.50
Hyd at 2 awr - £2.20
Hyd at 4 awr - £3.50
Dros 4 awr (aros hir / trwy'r dydd) - £5.00
I brynu eich Trwydded Barcio Flynyddol, cliciwch YMA i gofrestru a phrynu trwy MiPermit
Ar gyfer trwyddedau parcio Parc Gwledig Llyn Llech Owain, ni ddylai cerbydau fod yn fwy na 3.5 tunnell o bwysau gros; Rhaid i gerbydau fod yn llai na 2 fetr (6 troedfedd 8 modfedd) o uchder; Cerbydau wedi'u hadeiladu'n unig ar gyfer cludo dim mwy nag 8 teithiwr heb gynnwys y gyrrwr
*Ni chaniateir parcio dros nos