Pysgota ym Mharc Arfordirol y Mileniwm
Pysgota ym Mharc Arfordirol y Mileniwm – Pysgota am Garpiaid mewn ddau Llyn Godidog

Yn swatio yn ardal hardd Parc Arfordirol y Mileniwm, mae ein dau lyn sy'n llawn pysgod yn darparu profiad pysgota arbennig i bysgotwyr sydd â sgiliau ar bob lefel. P'un a ydych chi'n heliwr sbesimen profiadol neu'n bysgotwr achlysurol sydd am gael diwrnod hamddenol wrth y dŵr, mae ein llynnoedd yn cynnig y lleoliad perffaith i fwynhau'r gamp.
Mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn hafan i'r rheiny sy'n dwlu ar natur, gan gynnig golygfeydd arfordirol godidog, amgylchedd tawel, a digonedd o fywyd gwyllt. Mae'r amgylchedd heddychlon yn ei wneud yn lle delfrydol i daflu eich lein, p'un a ydych chi'n mynd ar drywydd carp 25 pwys trawiadol neu'n syml am fwynhau sesiwn bysgota hamddenol gyda ffrindiau a theulu.
Mae ein dyfroedd amrywiol yn darparu ar gyfer amrywiaeth o arddulliau o bysgota, o bysgota sbesimenau carpiaid i bysgota bras cyffredinol. Gyda chyfleusterau ardderchog ac amgylchedd a gynhelir yn dda, rydym yn sicrhau profiad o ansawdd uchel i'r holl ymwelwyr.
🏞 Pam y dylech Bysgota ym Mharc Arfordirol y Mileniwm?
✔ Dau lyn yn llawn pysgod, a phob un yn cynnig profiad pysgota unigryw
✔ Carp hyd at 25 pwys, ynghyd â rhywogaethau bras eraill gan gynnwys rhufellod, ysgretennod, a draenogiaid dŵr croyw
✔ Amgylchedd naturiol hardd, sy'n darparu lle heddychlon i ddianc rhag bywyd bob dydd
✔ Mynediad hawdd a chyfleusterau rhagorol, gan wneud y lleoliad yn gyfleus i bob pysgotwr
✔ Opsiynau ar gyfer pysgota yn ystod y dydd a sesiynau yn ystod y nos (caniateir deiliaid hawlenni blynyddol yn unig i bysgota yn ystod y nos)
P'un a ydych chi yma i gael sesiwn heriol yn chwilio am garpiaid mawr neu eich bod am dreulio diwrnod hamddenol wrth y dŵr, mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn darparu'r cyrchfan berffaith i bysgota.
Dewch i fwynhau pysgota o'r radd flaenaf mewn lleoliad arfordirol godidog – ewch i ôl eich hawlen heddiw a phrofi un o fannau pysgota gorau Sir Gâr!


Hawlenni a Rheolau Pysgota
📌 Rhaid i bob ymwelydd brynu hawlen flynyddol neu docyn dydd o'r ddolen Mipermit cyn dechrau pysgota.
📌 Caniateir pysgota yn ystod y nos ar gyfer deiliaid hawlenni blynyddol yn unig.
📌 Mae tocynnau dydd yn ddilys o doriad gwawr tan y cyfnos.
📌Bydd ceidwaid a beilïaid gwirfoddol ar y safle i wirio hawlenni ac i archwilio rigiau at ddibenion diogelwch
Rheolau Cyffredinol ar gyfer Pob Llyn
✔ Uchafswm o ddwy wialen fesul pysgotwr - NI DDYLID gadael y gwialenni heb oruchwyliaeth.
✔ Rhaid i chi fynd â'ch sbwriel gyda chi a'i waredu'n briodol.
✔ Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
✔ Mae angen hanfodion 'carp care', gan gynnwys mat datgysylltu, rhwyd lanio (o leiaf 42"), ac antiseptig sy'n addas i garpiaid.
✔ Rhaid dal a rhyddhau'r pysgodyn yn unig – nid oes hawl mynd â physgodyn gyda chi.
✔ Mae angen trwydded wialen ddilys.
✔ Ni chaniateir defnyddio cychod abwyd, rigiau sefydlog, blaenau lein â chraidd plwm, tanau, barbeciws, na cherddoriaeth uchel.
✔ Rhaid pysgota o leoedd dynodedig yn unig.
Costau Pysgota
🎟 Hawlen Flynyddol - £60 y flwyddyn
🎟 Tocyn Dydd - £10 (o doriad gwawr tan y cyfnos)
Ein Llynnoedd
🌊 Pwll Morolwg – Llyn Pysgota Sbesimen (tua 3 erw) gydag 20 peg ac ynys ac mae'n cynnwys carpiaid hyd at 25 pwys, sy'n ddelfrydol ar gyfer pysgotwyr sbesimen.
🌊Pwll Dyfaty – Pysgodfa fras gyffredinol (llai nag erw), sy'n cynnwys rhufellod, ysgretennod, a charpiaid hyd at ffigurau dwbl.
📢Gellir diweddaru'r rheolau yn ôl disgresiwn y rheolwyr – gofynnwch i staff y gwasanaeth Hamdden Awyr Agored am unrhyw newidiadau.
🎣 Mynnwch eich hawlen heddiw a dechreuwch eich antur bysgota nesaf ym Mharc Arfordirol y Mileniwm!