Canllaw cerdded cŵn
Cadwch gŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser
Mae cefn gwlad, parciau a’r arfordir yn lleoedd ardderchog i ymarfer eich ci ond mae’n rhaid i chi ystyried defnyddwyr eraill a bywyd gwyllt.
Cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol i sicrhau ei fod yn aros i ffwrdd o fywyd gwyllt, da byw, ceffylau a phobl eraill oni bai ei fod yn cael ei wahodd. Dylech chi:
· gadw eich ci ar dennyn neu yn y golwg bob amser
· bod yn hyderus y bydd eich ci yn dychwelyd ar eich gorchymyn
· gwneud yn siŵr nad yw'n crwydro o'r llwybr neu'r ardal lle mae gennych hawl mynediad
Edrychwch ar arwyddion lleol bob amser gan fod sefyllfaoedd pan fydd yn rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn drwy gydol y flwyddyn neu am ran o’r flwyddyn. Gall ardaloedd lleol hefyd wahardd cŵn yn gyfan gwbl, ac eithrio cŵn cymorth. Bydd arwyddion yn rhoi gwybod i chi am y cyfyngiadau lleol hyn.
Ar yr arfordir, efallai y bydd gofyn i chi gadw'ch ci ar dennyn yn ystod tymor bridio adar, ac i rwystro’r ci rhag tarfu ar heidiau o adar sy’n gorffwys neu’n bwydo ar adegau eraill o’r flwyddyn.
Mae'n arfer da ble bynnag yr ydych i gadw'ch ci ar dennyn o amgylch da byw.
Ar dir mynediad agored, rhaid i chi roi eich ci ar dennyn o amgylch da byw. Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi roi eich ci ar dennyn ar dir mynediad agored, hyd yn oed os nad oes da byw ar y tir. Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol.
Gall ffermwr saethu ci sy'n ymosod ar dda byw neu'n mynd ar eu holau. Efallai na fyddant yn atebol i ddigolledu perchennog y ci.
Gadewch eich ci oddi ar y tennyn os ydych chi'n teimlo dan fygythiad oherwydd da byw neu geffylau. Peidiwch â mentro cael eich brifo wrth amddiffyn eich ci; bydd rhyddhau eich ci yn ei gwneud yn haws i'r ddau ohonoch gyrraedd lle diogel.
Mae’r Cod Cerdded Cŵn yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.
Baw cŵn – bagiwch a biniwch mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref
Glanhewch ar ôl eich ci bob amser oherwydd gall baw ci achosi salwch mewn pobl, da byw a bywyd gwyllt.
Peidiwch byth â gadael bagiau baw cŵn, hyd yn oed os ydych yn bwriadu eu codi'n ddiweddarach. Gall bagiau a chynwysyddion â diaroglyddion wneud bagiau baw cŵn yn haws i'w cario. Os na allwch chi ddod o hyd i fin gwastraff cyhoeddus dylech fynd ag ef adref a defnyddio eich bin eich hun
Gwybodaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru