Swyddi Wag



Cynorthwyydd Bwyd a Diod x 3
Dewch i ymuno â’n tîm
Mae tîm Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm fel Cynorthwywyr Bwyd a Diod ym Mharc Gwledig Pen-bre. Byddwch chi'n chwarae rôl allweddol wrth baratoi a gweini bwyd a diod, gan ddarparu gwasanaeth blaen tŷ rhagorol mewn modd cyfeillgar, croesawgar, proffesiynol ac effeithlon.
I drafod y rôl, cysylltwch â Victoria Silvers drwy ffonio 01554 742423
Gwneud Cais YMA
Arweinydd Gweithgareddau
Dewch i ymuno â’n tîm
Ydych chi'n angerddol am greu profiadau cofiadwy ac ysbrydoli eraill? Ydych chi'n ffynnu mewn amgylchedd bywiog, cyflym? Os felly, mae'r cyfle perffaith ar gael i chi fod yn arweinydd gweithgareddau yn y Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau.
Ym Mhen-bre rydyn ni'n credu bod gweithgareddau diddorol yn gallu dod â phobl at ei gilydd a chreu atgofion sy’n para. Rydyn ni am ddarparu profiadau eithriadol i'n cleientiaid. Mae ein tîm yn egnïol ac yn arloesol, ac yn chwilio bob amser am ffyrdd newydd o wneud gwahaniaeth
Mwy o wybodaeth YMA
Gwirfoddolwyr
Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr o fewn ein Parciau Gwledig a Gwarchodfeydd Natur. Rôl wych i gwrdd â phobl newydd
Gall tasgau gynnwys gwaith cadwraeth a chynorthwyo gyda digwyddiadau a llawer mwy.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Cydgysylltydd Cadwraeth a Seilwaith Gwyrdd trwy e-bost: paubrey@sitgar.gov.uk